Blog Gerraint Mawrth 2020
Fel y gallwch ddychmygu, roedd y mis diwethaf yn fis tawel iawn o’i gymharu â’r arfer. Rydw i wedi bod yn gweithio o gartref ers dechrau’r cyfnod cloi. Rydw i wedi bod yn cael cyfarfodydd staff mewnol drwy Microsoft Teams. Yn fy marn i mae hyn wedi gweithio oherwydd rydyn ni’n gallu dangos agendau, cyfarfodydd tîm a chyflwyniadau ar sgrin heb orfod eu hargraffu.
Rydw i wedi bod yn anfon e-byst i barterniaid prosiect Engage to Change. Rydw i wedi bod yn cynhyrchu clipiau fideo byr am fy rôl a sut rydw i wedi bod yn ymdopi gyda hunanynysu, ac mae’r rhain wedi cael eu postio ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol y prosiect fel Facebook a Twitter.
Rydw i wedi bod yn cael galwadau ffôn bob wythnos gyda llysgenhadon y prosiect rydw i’n rheolwr llinell arnyn nhw i weld sut maen nhw’n ymdopi gyda hunanynysu.
Mae unigolion gydag anableddau dysgu hefyd wedi bod yn cysylltu gyda mi drwy sgyrsiau messenger Facebook a galwadau fideo messenger. Mae’n dda teimlo fy mod yn gallu helpu pobl i deimlo eu bod mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod anodd yma.