Engage to Change: Cynnydd hyd yma a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu
Rhagfyr 2019 | Adroddiad am yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu hyd yn hyn drwy’r prosiect Engage to Change.
Mae’r prosiect Engage to Change bellach yn ei 4ydd blwyddyn, yn dysgu gwersi am sut y gallwn gefnogi pobl ifanc gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth i gael gwaith cyflogedig. Mae’r prosiect wedi cael cryn lwyddiant ac wedi wynebu rhai rhwystrau.
Mae’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu hyd yn hyn wedi’i nodi yn y briff cryno hwn.
Mae’n brosiect peilot ac mae 14 mis ganddo yn weddill, ac fe fyddwn yn dysgu rhagor yn y cyfnod hwnnw. Ond, mae’n amlwg bod angen inni greu dull cynaliadwy o ddarparu ‘beth sydd yn gweithio’ ar ôl i’r prosiect ddirwyn i ben.
Mae’r briff yma yn nodi nifer o feysydd polisi lle mae angen gweithredu ar wersi os ydym yn mynd i barhau gyda llwyddiant y prosiect a chreu llwybr Cyflogaeth gyda Chefnogaeth cynaliadwy i alluogi’r pobl ifanc yma i fod yn gynwysiedig yn y farchnad lafur ac i gyflawni eu potensial diamau fel aelodau gwaith yn y gymdeithas yng Nghymru.