Chwilio yn ol llais

Blwyddyn Newydd Dda! Fel y gallwch ddychmygu, gyda gwyliau’r Nadolig, roedd mis Rhagfyr yn fis tawelach. Fodd bynnag, ar ddechrau’r mis gofynnodd Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite i mi gynnig sesiwn ‘blasu’ i’w staff a’u tîm o’m Awr Hwyl ar-lein yr wyf yn ei rhedeg yn wythnosol. Roedd hi’n edrych fel eu bod nhw i gyd wedi mwynhau’r sesiwn blasu’n fawr a daeth nifer o bobl ifanc o Elite i’r sesiynau Awr Hwyl wythnosol o ganlyniad.  Mae hon yn ffordd wych o ymgysylltu â phobl ifanc a helpu i ennyn diddordeb yn y Prosiect Engage to Change, yn ogystal â chynnig cyfle i gymdeithasu a chael hwyl yn ystod y cyfnod clo.

Ar 4 Rhagfyr, fe wnes i gyd-gadeirio gweminar Symposiwm Cyflogaeth Awtistiaeth Cymru gyda’r Athro Phil Reed o Brifysgol Abertawe. Cynigiodd y gweminar hon amrywiol weithdai yn ymwneud â chefnogi sefydliadau i gyflogi pobl ag awtistiaeth a/neu anableddau dysgu, gydag astudiaethau achos a thrafodaethau am arfer gorau mewn cyflogaeth.

Ar 10 Rhagfyr, fe wnes i ddal i fyny gyda Llysgenhadon y prosiect cyn gwyliau’r Nadolig. Roedd Jonathan yn bwriadu cymryd rhan mewn digwyddiad gydag Engage to Change ym mis Rhagfyr, ynglŷn â’i brofiadau ei hun o gyflogaeth a hyfforddiant – rwy’n gobeithio gallu dweud mwy wrthych am hynny fis nesaf.

Cynhaliodd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan eu digwyddiad Nadolig ar 16 Rhagfyr a gofynnwyd i mi wneud fy Hootenanny! Rhagflaenwyd y digwyddiad Nadolig hwn gan weithdy Prosiect Ffotograffiaeth ‘Trwy ein Llygaid’ sy’n casglu straeon ffotograffig a fideo gan aelodau.  Roedd yn ddiwrnod gwych.

Fel ffordd o annog mwy o ferched ifanc i ymuno â’r prosiect Engage to Change, rydym yn cynnal digwyddiad ‘Menywod yn y Gwaith’ ar 21 Ionawr.  Byddaf yn rhoi adborth ar y digwyddiad hwn yn fy mlog nesaf.