Chwilio yn ol llais

Yr wythnos yma lansiodd Llywodraeth Cymru cynllun gweithredu cynhwysol ar anabledd er mwyn cynyddu cyfleoedd prentisiaeth ar gyfer pobl anabl. Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, y cynllun ar Diwrnod Cenedlaethol Pobl Anabl yn ystod digwyddiad yng Nghaerdydd wedi’i dal ar y gyd gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Wrth wraidd y cynllun yw dileu’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag gwneud prentisiaethau yng Nghymru. Roedd cynrychiolwyr o partneriaid prosiect Engage to Change, ELITE Supported Employment, a’r Ganolfan Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn ymwneud â chreu’r cynllun trwy gweithgor sy’n cynnwys sefydliadau arbenigol, yn nodi rhwystrau a gwneud argymhellion. Roedd yr argymhellion hwn yn cwmpasu meysydd allweddol yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, modelau rol, cymhellion, meini prawf hyblyg ar gyfer ymuno a gadael, a cymorth i unigolion, cyflogwyr a darparwyr.

Mae’r cynllun gweithredu yn anelu i helpu pobl fel Sarah-Jayne Mawdsley o Gaernarfon, sydd yn Prentis Cynorthwyol y Fferyllfa yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar hyn o bryd. Mae gan Sarah-Jayne Syndrom Down Mosaig, ac ymunodd hi’r rhaglen interniaeth Engage to Change DFN Project SEARCH blwyddyn diwethaf. Ariennir y rhaglen yng Nghymru fel rhan o’r prosiect Engage to Change, sy’n cefnogi pobl ifanc gydag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth i ennill sgiliau a phrofiad i symud mewn i gyflogaeth cynaliadwy.

“Rwy’n jest hapus dros ben bod hyn wedi digwydd i mi,” meddai Sarah-Jayne. “O flwyddyn yn ôl, ni feddyliais erioed y byddwn yn cyrraedd yma ac mae’n rhywbeth mawr i mi. Oni bai am Brosiect SEARCH byddwn i ddim yma o gwbl.” Mae hi’n falch ei fod hi wedi profi pobl yn anghywir, ac yn credu yn ei gallu hi i gyflawni popeth y mae hi eisiau cyflawni gyda gwaith caled a’r cefnogaeth priodol.

Mae’r cynllun gweithredu yn bwydo mewn i Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cam gweithredu i sicrhau ymagwedd benodol tuag at gymorth cyflogadwyedd, cymorth sy’n ymateb i anghenion unigolion. Mae Engage to Change wedi dangos pwysigrwydd mewnbwn hyfforddiant swydd ac effeithlonrwydd hyn ynghyd â hyfforddiant yn y gwaith i galluogi pobl ifanc gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i lwyddo yn y gwaith a cynnal cyflogaeth â thal.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan:

“Nid oes digon o bobl anabl mewn gwaith. Yng Nghymru, dim ond 45% o bobl anabl o oedran gwaith sydd mewn gwaith, a hynny o’i gymharu â 80% o bob nad ydynt yn anabl. Nid yw hyn yn dderbyniol, ac rwyf am weld newid.”

“Nid proses gyfan gwbl ddyngarol yw hyn, chwaith: mae cyflogi grwpiau gwaith amrywiol yn gallu arwain at well datrysiadau i heriau busnes a gwell cynhyrchedd. Gall hefyd annog creadigrwydd. Hefyd, wrth gwrs, mae meddu ar weithlu sy’n adlewyrchu cwsmeriaid y cwmni yn golygu y gallant gael ymdeimlad gwell am eu hanghenion, a’r materion sy’n effeithio arnynt.”

“Mae prentisiaethau’n llwybr brofedig i gyflogaeth gynaliadwy ac rwy’n falch iawn fod gennym Raglen Brentisiaethau lwyddiannus yma yng Nghymru. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw’r cohort prentisiaethau’n adlewyrchu ein cymdeithas amrywiol. I newid hyn, mae’n hanfodol ein bod yn annog pobl anabl i ymgeisio am brentisiaethau ac mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael. Dyma nod ein Cynllun Gweithredu ar Brentisiaethau Cynhwysol.”