Chwilio yn ol llais

Mae mis Gorffennaf wedi bod yn fis cymharol dawel ond rwyf wedi ei dreulio’n gwella fy sgiliau Zoom a chadw mewn cysylltiad â phartneriaid prosiect a’r Llysgenhadon eraill ar y prosiect. Cyn y cyfyngiadau symud doeddwn i erioed wedi clywed am Zoom ond nawr rwy’n ei ddefnyddio drwy’r amser – ar gyfer fy awr hwyl wythnosol (mwy am hynny isod!) ac ar gyfer cyflwyniadau a sgyrsiau amrywiol.

Yr wythnos diwethaf, roedd gan Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan sesiwn hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r holl agweddau gwahanol ar Zoom a sut i drefnu sesiynau Zoom yn effeithiol. Mae hyn wir wedi fy helpu i gynyddu fy sgiliau ac rwy’n gobeithio y bydd y wybodaeth ychwanegol hon yn ddefnyddiol i gefnogi’r rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect Engage to Change.

Y mis diwethaf soniais fy mod wedi cynnal y cyntaf o ‘Oriau Hwyl Gerraint’, sy’n ffordd newydd o ymgysylltu â phobl ifanc ac ar yr un pryd i gael syniadau pobl am y prosiect Engage to Change. Rydw i wedi gwneud pum awr arall o hwyl ers hynny ar brynhawniau Mawrth.

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd yn monitro’r prosiect hwn ac maen nhw’n anfon cwestiynau gwerthuso i mi y bydden nhw’n hoffi eu gofyn i’r cyfranogwyr. Er enghraifft, rydym wedi bod yn gofyn i gyfranogwyr am eu lles neu ofyn iddyn nhw beth sydd wedi eu helpu fwyaf yn ystod y cyfyngiadau symud a sut maen nhw wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u teulu. Fe wnaethon ni roi’r cwestiynau hyn mewn pôl Zoom yn ystod yr awr hwyl a bydd yr atebion yn cael eu hanfon i ffwrdd at ddibenion monitro a gwerthuso.

Bob wythnos, rwy’n gwneud ‘Newyddion Diweddaraf Coronafeirws’ Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Mae hwn yn cael ei roi ar ein gwefan ac ar Facebook a Twitter ac mae’n ffordd arall o wella fy sgiliau cyflwyno a chysylltu â phobl sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Rwy’n credu ei fod yn fy helpu i fod yn fwy hygyrch i bawb.

Rwy’n cadw mewn cysylltiad â’r Llysgenhadon eraill yn ffurfiol (drwy’r Fforwm Gwerthuso) ac yn anffurfiol drwy negeseuon a sgwrs grŵp.

Gofynnwyd i mi hefyd eistedd ar Grŵp Cynnwys Rhanddeiliaid Gwefan y Tîm aAtistiaeth Cenedlaethol a Bwrdd y Prosiect. Mae’r Grŵp Cynnwys Rhanddeiliaid yn cyfarfod bob tair wythnos ac yn adolygu cynnydd y wefan newydd sy’n mynd i gymryd lle ASDinfoWales. Mae’n mynd i fod yn fwy hygyrch a bydd pobl sy’n defnyddio eu ffonau symudol yn ei chael hi’n haws ei defnyddio hefyd. Rwyf hefyd yn Rhanddeiliad allweddol ar Fwrdd y Prosiect ac rwy’n teimlo bod y cyfranogiad hwn yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau gweithio mewn tîm ymhellach.