Polisi hygyrchedd
Rydyn ni’n credu, pe bai gwefannau wedi cael eu hysgrifennu, eu dylunio a’u datblygu yn ôl y safonau gorau yna fe fyddai modd iddyn nhw gael eu gwerthfawrogi gan y gynulleidfa ehangaf.
Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi ceisio gwneud y wefan hon yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio i bobl o bob gallu, yn cynnwys y rhai gyda namau ar y golwg neu ar y clyw, namau gwybyddol neu weithredol. Mae ein gwefan wedi cael ei dylunio i gefnogi technolegau cynorthwyol ac felly mae modd cael mynediad i Anabledd Dysgu Cymru trwy destun llafar neu mae modd llywio o gwmpas safle trwy ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig.
Rydyn ni hefyd yn ystyried profiad y defnyddwyr – pa mor hawdd i’w ddarllen ydy’r testun? Pa mor hawdd ydy llywio o gwmpas y safle a deall ble rydych chi?
Cydymffurfio gyda safonau
Cafodd y tudalennau ar y wefan eu hadeiladu i gydymffurfio gydag isafswm safon WCAG A, gan gydymffurfio gyda holl ganllawiau blaenoriaeth 1 a 2 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau W3C. Mae pob tudalen ar y wefan yn dilysu fel XHTML 1.0 Transitional. Mae pob tudalen ar y wefan hon yn defnyddio arwyddnodi semantig strwythuredig. Defnyddir tasgiau H1 ar gyfer y prif deitlau, H2, H3 a H4 ar gyfer is-deitlau. Gall defnyddwyr JAWS fynd ymlaen i’r adran nesaf oddi mewn i dudalennau ar y wefan hon trwy bwyso ALT+INSERT+3.
Cynorthwyon llywio
Mae dolen ar bob tudalen i’r hafan, ac mae’r system bwydlen wedi’i hadeiladu mewn dull cyson ar draws yr holl wefan.
Mae blwch chwilio (allwedd mynediad 4) ar bob tudalen ar y wefan ac mae dewisiadau chwilio pellach ar gael ar y dudalen chwilio pellach.
Llwybrau byr bysellfwrdd
Mae’r llwybrau byr bysellfwrdd canlynol yn rheoli maint y testun:
- Pwyswch Ctrl & + (arwydd plws) i gynyddu maint y testun.
- Pwyswhc Ctrl & – (arwydd meinws) i leihau maint y testun
- Pwyswch Ctrl & 0 (sero) i ail osod maint y testun i faint rhagosod y dudalen we.
I ddefnyddwyr Mac mae llwybrau byr bysellfwrdd canlynol yn rheoli maint y testun:
- Pwyswch Command & + (arwydd plws) i gynyddu maint y testun
- Pwyswch Command & – (arwydd meinws) i leihau maint y testun.
- Pwyswch Command & 0 (sero) i ail osod maint y testun i faint rhagosod y dudalen we
Ym mhob achos fe fydd hyn yn creu sgrolio llorweddol ar y dudalen. Gellir llywio hyn trwy’r allweddau saeth chwith a de ar eich bysellfwrdd.
Allweddau mynediad
Mae Safon Allweddau Mynediad Llywodraeth y DU wedi’u defnyddio ar y safle yma. Mae’r rhain yn darparu llwybr byr bysellfwrdd i ddefnyddwyr sydd yn dymuno mynd yn uniongyrchol i rannau penodol o’r safle ac i helpu’r rhai nad ydyn nhw’n defnyddio dyfais pwyntio, fel llygoden. Mae is-set o’r safonau wedi cael eu defnyddio ac mae’r allweddau mynediad wedi’u diffinio fel â ganlyn:
- S – Sgipio llywio
- 1 – Hafan
- 3 – Map o’r safle
- 4 – Chwilio’r safle yma
- 0 – Datganiad hygyrchedd
Ein haddewid
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gwefan yn hygyrch i bawb waeth beth fo’u gallu. Fe fyddwn yn parhau i fonitro datblygiadau a newidiadau yng nghanllawiau WAI yn agos yn ogystal ag arfer gorau cyffredinol gwefannau.
Os oes gennych unrhyw adborth neu awgrymiadau ynglŷn â sut y gallwn wneud y wefan hon yn fwy hygyrch i’ch anghenion neu anghenion y gymuned, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r tîm yn: engagetochange@ldw.org.uk