Hefin David AC yn ymweld â Ian yng Nghaerffili
Cafodd Ian ymwelydd arbennig heddiw yn ei weithle y Spar Trethomas – daeth Hefin David, Aelod Cynulliad Caerphilly, i siarad iddo ynglyn a’r prosiect Engage to Change a sut mae hi wedi cael effaith bositif ar ei fywyd. Efallai byddwch chi’n cofio gwpl o fished yn ol pan wnaeth Hefin ofyn gwestiwn am Engage to Change i Carwyn Jones yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd.
Mae Hefin wedi dilyn hyn gyda ei ymweliad i Ian i weld yn uniongyrchol effaith y prosiect ar bobl ifanc gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth. Mae Ian nawr wedi bod yn gweithio yn y Spar ers Mai, ac ar bob cyfrif wedi fiction mewn i’r tim Spar yn hynod o dda! Da iawn Ian!
Cafodd Hefin hefyd y cyfle i glywed o rheolwr Ian yn y Spar, Jenny, a ganmolodd y cymorth in-i-un sydd ar gael trwy Engage to Change mewn ffurf hyfforddwr swydd. Glywodd e hefyd o Chris English o ELITE am etifeddiaeth y prosiect a’r newid parhaol hoffwn ni sefydlu trwy Engage to Change.
Hoffwn ni ddiolch i Hefin am ei gefnogaeth ac am ddefnyddio ei llais yn y Senedd i eirioli’r prosiect.