Chwilio yn ol llais

Cwrdd ag Elsa, George, Jordan a Jonathan – ein llysgenhadon Engage to Change newydd! Yn dilyn proses gais a chyfweliad, cawsant eu penodi ym Mai 2018 a gwnaethant eu ymddangosiadau cyntaf fel llysgenhadon yn ein Gwobrau Blynyddol ym Mehefin. Mae pob un yn cymryd rhan neu wedi cymryd rhan yn y prosiect Engage to Change cyn ddod yn llysgenhadon. Dyma eu straeon yn eu geiriau eu hunain. I orffen, dyma Jonathan.

Jonathan

Fy enw i yw Jonathan Tranter ac rydw i’n dod o Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yn Ynys Môn, Gogledd Cymru. Ie, y lle gyda’r enw dwl hir, neu Llanfair PG fel y gwyddys y bobl leol sy’n byw yn y dref.

Cefais fy ngeni â stenosis Pyloric dwbl (yn rhwystr uwchben ac yn is na’m stumog) yn ogystal ag achos difrifol o Ataliadau Reflex Anoxic. RAS yw’r term a ddefnyddiwyd ar gyfer ffit arbennig nad yw’n epileptig nac o ganlyniad i ddaliad anadlu cyanotig, ond sydd yn hytrach yn deillio o ataliad y galon trwy weithgarwch gormodol o’r nerf vagus.

Cefais rheolydd calon wedi ei ffitio pan oeddwn i’n dau a hanner mlwydd oed, a wnaeth hyn wella’r cyflwr RAS. Unwaith roedd hyn wedi ei wneud yn 1995 dechreuodd fy mhroblemau arall i ddangos, fel dim ond yn gallu canolbwyntio am ddwy a hanner eiliad. Daeth fy awtistiaeth yn fwy amlwg, yn ogystal â fy niffyg cwsg (efallai dwy awr y noson), dim ond i enwi ychydig o bethau.

Mae fy mam Philippa a fi wedi cael llawer o frwydrau ar ein taith gyda addysg, yn symud o ysgol i ysgol, yn ogystal â pobl ddim yn deall fy anghenion cymhleth.

Ond pan ymunodd fy mam â’r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, nid oedd neb ohonom yn gwybod faint y byddai’n newid ein bywydau, yn enwedig fy mywyd i.

Aeth Philippa i Ddiwrnod Gwybodaeth Cynnal Gofalwyr yn y Carreg Bran ar 23ain Mawrth 2017 , heb feddwl y fydde hi’n derbyn unrhyw help oherwydd roeddwn i’n 24 mlwydd oed ac roedd hi’n fod i fod ar gyfer rhai lan at 18 mlwydd oed. Cymrodd Philippa siawns a siaradodd hi â Agoriad Cyf, a oedd yn rhan o sefydlu rhaglen o’r enw Engage to Change sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Dyma oedd pwynt o newid fawr i mi. Rhai wythnosau’n hwyrach ges i alwad ffôn, ac ar ôl cyfarfod, cefais fy nerbyn ar y prosiect yn 24 mlwydd oed. Gwariais y flwyddyn nesaf yn gweithio’n galed ar cyrsiau a hyfforddiant, ac yn y pen draw ges i swydd dros dro gyda B&M Bargains ym Mangor. Gofynnodd Agoriad i mi os hoffwn i wneud cais am swydd fel llysgennad gyda Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, a wnes i. Teithiais i Gaerdydd ar gyfer y cyfweliad a’r diwrnod nesaf dywedwyd wrthyf fy mod wedi ennill y rôl.

Ar y 14eg Mehefin cefais fy ngwobrwyo fel “Person Ifanc y Flwyddyn” gan Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Dysgu Cymru.

Rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol, cael gweithio a helpu pobl arall fel fy hun.

Mae hi wedi bod yn ffordd hir a caled i mi hyd yn hyn, ond gyda help a chymorth nid dim ond fy nheulu ond gwasanaethau lleol rydw i’n dweud “Hyn yw fy mlwyddyn i ac mae llawer yn fwy i ddod, felly gwyliwch amdana i!”