Chwilio yn ol llais

Ers 2016 mae’r prosiect Engage to Change wedi bod yn gweithio ar draws Cymru i gefnogi pobl ifanc 16-25 oed sydd ag anhawster dysgu, anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i gyflawni eu llawn botensial. Rydym yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc/rhieni/gofalwyr a chyflogwyr i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, datblygu sgiliau trosglwyddiadwy, cynyddu hyder a chynnig cyfleoedd i gael mynediad i leoliadau gwaith.

Rydym wedi sylwi bod mwy o ddynion ifanc nag o fenywod ifanc yn gwneud cais i gymryd rhan yn y prosiect ac mae hyn yn rhywbeth rydym eisiau ei newid. Rydym eisiau annog menywod ifanc gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i feddwl am gyflogaeth fel rhan o’u dyfodol. Rydym eisiau eu hysbrydoli gyda straeon am fenywod sydd wedi cyflawni llwyddiant yn eu bywydau gwaith, boed drwy’r prosiect Engage to Change neu drwy ddulliau eraill.

Ymunwch gyda ni mewn digwyddiad dyrchafol am yr effaith cadarnhaol y gall cyflogaeth ei gael ar fywydau menywod ifanc gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth yng Nghymru.

Lleoliad: Ar-lein drwy Zoom

Dyddiad: 21 Ionawr 2021

Amser: 10-11.15am

Archebwch eich lle am ddim ar wefan Anabledd Dysgu Cymru nawr.