Chwilio yn ol llais

“Ar yr adeg hon pan fo’r pwysau mwyaf posibl ar y farchnad lafur, mae’n bwysig bod cyflogwyr y sector cyhoeddus yn cael eu hannog i chwarae eu rôl fel angorau yn eu cymunedau a’u rhanbarthau lleol, yn enwedig mewn perthynas â chyflogi pobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth.”

Mae Dr Steve Beyer a’i dîm gwerthuso yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol wedi cyhoeddi papur briffio ar rôl GIG mewn cyflogi pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth. Mae’r papur yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cyflogaeth Anabledd Dysgu ac Awtistiaeth y sector cyhoeddus dros Gymru a fyddai nid yn unig o fudd i bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, ond hefyd GIG ei hunan. Mae tystiolaeth o strategaeth debyg yn Lloegr yn awgrymu “bu manteision sylweddol i ysbytai a gwasanaethau eraill o interniaethau â chymorth a chyflogi pobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth.”

Yn y papur briffio, mae Dr Beyer yn esbonio bod “sefydliadau angor” yn chwarae rôl bwysig mewn cynhyrchu a chynnal cyflogaeth mewn ardaloedd lleol. Mae e’n diffinio y sefydliadau hyn fel “cyflogwyr sy’n annhebygol o symud yn ystod cyfnodau o ddirwasgiad, sy’n cynrychioli cronfeydd cyfalaf sylweddol, sy’n brynwyr gwasanaethau sylweddol ac yn cyflogi nifer fawr o bobl leol.”

Mae enghreifftiau’n cynnwys GIG, awdurdodau lleol, prifysgolion a chyflogwyr eraill y sector cyhoeddus. Gall y sefydliadau angor hyn ddylanwadu ar yr economi leol mewn sawl ffordd:

  • Gall y ffordd y maen nhw’n comisiynu a thalu am wasanaethau helpu i hyrwyddo swyddi mewn awdurdodau lleol, gwella cyfraddau cyflogi a chreu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau a chynlluniau tebyg eraill.
  • Gall sut maen nhw’n defnyddio asedau cyfalaf megis tir ac adeiladau helpu i gynhyrchu gwaith a chyfleoedd swyddi yn yr ardal leol.
  • Fel cyflogwyr mawr, gallan nhw ddangos arfer da mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â rhannu gwybodaeth a phrofiad â chyflogwyr eraill.

 

Cliciwch yma i ddarllen y papur briffio’n llawn.

Gallwch chi ddarllen y briff hawdd ei ddeall yma.