Chwilio yn ol llais

Daliwch i fyny gyda’r diweddariadau o’n lansiad ar 30ain Mawrth 2017.

Gerraint wrth ei ddesg yn Anabledd Dysgu CymruDiolch i bawb a oedd yn bresennol yn ein lansiad swyddogol yn y Pierhead, Bae Caerdydd ar 30ain Mawrth! Gwelon ni niferoedd gwych ac roedden ni mor bles i glywed faint ohonoch oedd wedi ffeindio’r digwyddiad yn addysgiadol ac ysbrydoledig. Gallwch chi ymweld â @engage_2_change i edrych nôl ar ddiweddariadau manwl ynglyn a beth ddigwyddodd, ond dyma crynodeb cyflym o’r newyddion cysylltiedig!

Ar fore’r lansiad, bu ein Gweinyddwr Gerraint Jones-Griffiths a’r Rheolwr Prosiect Jenna Trakins yn ymddangos ar rhaglen fore BBC Radio Wales, Good Morning Wales, i siarad am y prosiect. Rhannodd Gerraint ei daith i gyflogaeth gyda Engage to Change a trafododd ei fywyd gydag awtistiaeth. Gallwch wrando nôl ar y cyfweliad yma o 55 munud i fewn.

Bu Engage to Change hefyd yn ymddangos ar Post Prynhawn BBC Radio Cymru. Cafodd Elen o Flaenau Ffestiniog ei gyfweld ynghyd â’i fam Delyth a siaradodd hi am ei swydd yn y Eurospar. Gallwch wrando yma o 37:50 mewn i’r rhaglen. Ymddangosodd stori Elen hefyd ar blog y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cyhoeddodd BBC News Wales erthygl ar Engage to Change yma.

Cyflwynwyd stori fideo cyntaf Project SEARCH yn ystod y lansiad, yn ogystal â stori fideo Elen.