Chwilio yn ol llais

Cwrdd ag Elsa, George, Jordan a Jonathan – ein llysgenhadon Engage to Change newydd! Yn dilyn proses gais a chyfweliad, cawsant eu penodi ym Mai 2018 a gwnaethant eu ymddangosiadau cyntaf fel llysgenhadon yn ein Gwobrau Blynyddol ym Mehefin. Mae pob un yn cymryd rhan neu wedi cymryd rhan yn y prosiect Engage to Change cyn ddod yn llysgenhadon. Dyma eu straeon yn eu geiriau eu hunain. Y tro yma, darllenwch stori Jordan.

Jordan

Symudais i Gymru o Essex yn Hydref 2015, roeddwn i eisiau swydd ond roedd gen i hunanhyder isel a dim profiad gwaith blaenorol. Fe ddes i’n ymwybodol o Engage to Change trwy grwp cymdeithasol wedi’i trefnu gan y Cymdeithas Genedlaethol Awtistig a wnes i gais i ymuno.

Dechreuais gyda Engage to Change yn Hydref 2016. Yn Ionawr 2017 cynigiwyd lleoliad gwaith i mi yn y SHARE Centre yng Nghasnewydd, a wnaeth arwain at gwaith cyflogedig mis yn hwyrach a bu’n para am un flwyddyn. Swydd weinyddol oedd hon lle ennillais llawer o brofiad a gwella fy hyder.

Yn fuan ar ôl i’r swydd orffen, fe ddes i’n ymwybodol o swydd fel Llysgennad Prosiect ar gyfer Engage to Change. Roeddwn i’n nerfus yn ymgeisio am y swydd yma oherwydd rwyf wedi profi siomedigaethau yn y gorffennol. Yn y diwedd darganfyddais y dewrder i wneud cais a cefais fy ngwahodd i gyfweliad. Roeddwn i’n bryderus iawn cyn y cyfweliad ac yn y diwedd nid oeddwn i’n gallu mynd. Gwnaeth Engage to Change addasiad i mi ac fe ddaethon nhw i fy nhŷ er mwyn hwyluso’r profiad. Cynhaliwyd y cyfweliad mewn siop goffi. Teimlais llawer yn fwy hyderus yn gwneud hyn.

Dywedwyd wrthyf yno ac yna bod gen i’r swydd ac roeddwn i wrth fy modd fel canlyniad. Fy rôl cyntaf fel llysgennad oedd i deithio i Ogledd Cymru ar gyfer seremoni wobrwyo. Roeddwn i bach yn nerfus i ddechrau gan oedd hi’n newydd i fi a doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i’n gwneud. Yn ystod y daith hon dysgais llawer am y gwaith ffantastig mae ein partneriaid wedi gwneud gyda’r prosiect yma a cwrddais pobl wych a ddangosodd angerdd ar gyfer y prosiect yma, boed yn hyfforddwyr gwaith neu’n aelodau o’r teulu ayyb. Gwnes i’r un peth yng Nghaerdydd rhai diwrnodau’n hwyrach. Teimlais yn fwy hyderus gan fy mod yn fwy cyfarwydd gyda’r ddinas, fy rôl fel llysgennad ac roeddwn i’n fwy hyderus yn cwrdd â phobl newydd. Cefais amser gwych ac fe fwynheais fy hun yng Ngogledd Cymru ac yng Nghaerdydd.

Ni alla i wneud hyn heb cefnogaeth ELITE ac yn arbennig Lewis Greenaway sydd wedi fy nghefnogi ers i mi ddechrau ar y prosiect. Hoffwn hefyd ddiolch i Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan am rhoi’r cyfle yma i mi ac rydw i’n teimlo’n falch i fod yn llysgennad.

Ar lefel personol mae’r prosiect wedi fy ngwneud llawer yn fwy hyderus mewn delio gyda phobl ac wedi rhoi’r profiad i mi i gobeithio cael swydd lawn amser yn y dyfodol agos.