Chwilio yn ol llais

Enw: Grace Smith

Sut ydych chi’n teimlo am eich amser ar y rhaglen Engage to Change DFN Project SEARCH?

Rydw i’n teimlo’n fwy hyderus ar ôl bod ar Project SEARCH. Wnes i ffrindiau newydd, rydw i wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu ac rydw i’n teimlo fy mod wedi dod yn bell ers dechrau Project SEARCH.

Pa interniaethau ydych chi wedi gwneud ers i chi ddechrau Engage to Change DFN Project SEARCH?

Llyfrgell Talybont/ASSL – Cynorthwy-ydd Llyfrgell

Yr Adran Ystadau, Tŷ McKenzie – Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Ysbyty yr Heath – Technegydd Cynorthwyol

Beth oedd eich hoff interniaeth a pham?

Fy hoff interniaeth yw Ysbyty yr Heath, mae wedi bod yn y gorau oherwydd roedd hi’n hwyl gweithio yna. Rydw i’n hoffi’r tasgau ac mae’r bobl wedi bod yn gyfeillgar.

Disgrifiwch rhai o’r tasgau wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn.

  • Labelu ac archifo llyfrau yn archifau’r brifysgol.
  • Lleoli a gwaredu llyfrau nad sydd ei angen bellach.
  • Prosesu a sganio llyfrau mewn i system y llyfrgell.
  • Casglu a prosesu llyfrau y gofynnir amdanynt ar y system llyfrgell electronig.
  • Diweddaru systemau yr ystadau gyda tasgau cynnal a chadw wedi’i gwblhau.
  • Diweddaru cofnodion electronig.
  • Gwaredu cofnodion cyfrinachol wedi ei harchifo.
  • Sganio, llungopïo a rhwygo.
  • Gwneud cyffuriau efelychu ar gyfer y myfyrwyr.
  • Tacluso’r cypyrddau SDL.
  • Llenwi’r cypyrddau cyffuriau.

Sut mae hi wedi helpu chi i fod ar Engage to Change DFN Project SEARCH a beth ydych chi wedi dysgu yn ystod y flwyddyn?

Mae hi wedi helpu fi gyda fy sgiliau cyfathrebu, gwneud cyswllt llygaid a siarad gyda phobl.

Sut mae Lily (hyfforddwr swydd), Kerri a Bev (hyfforddwyr y coleg) wedi helpu chi yn ystod y flwyddyn? Pa fath o gymorth ydych chi wedi derbyn ohonynt?

Helpodd nhw wneud fy nghynllun cyfathrebu 10 cam, cyfathrebu gyda pobl yn y gwaith.

Helpodd nhw gyda tasgau newydd yn y gwaith.

Helpodd nhw pan ddes i’n sownd yn y gwaith.

Pa fath o swyddi ydych chi’n gwneud cais amdano ac a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus eto?

Rydw i wedi ymgeisio am Cynorthwy-ydd Domestig ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydw i’n gobeithio cael swydd gyda’r ganolfan addysg meddygaeth.

Nawr bod Engage to Change DFN Project SEARCH yn dod i ddiwedd, beth fyddwch chi’n hoffi gwneud, neu’n cynllunio gwneud, yn y dyfodol?

Fy nghynllun am y dyfodol yw i weithio rhywle fel Ysbyty yr Heath gyda’r myfyrwyr dan hyfforddiant.