Chwilio yn ol llais

Fel partner darpariaeth Engage to Change yng Ngogledd Cymru, mae Agoriad Cyf yn gyfrifol am sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad i lleoliadau gwaith a cyflogaeth wir. Yr wythnos yma, dewch i adnabod rhai o aelodau’r tîm Agoriad!

Zoe Williams, Hyfforddwr Swydd

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Fy rôl yw i gefnogi a grymuso unigolion gydag awtistiaeth ac/neu anableddau dysgu yn y gweithle. Fel hyfforddwr swydd, rydw i’n helpu unigolion i wella eu cryfderau a’u sgiliau swydd, ac yn eu dysgu nhw i ddefnyddio eu cryfderau a’u sgiliau yn effeithiol.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Rydw i’n mwynhau gweld yr unigolion yn llwyddo ac yn cyrraedd eu nodau, gan wybod fy mod wedi helpu nhw i gyrraedd ble maen nhw eisiau bod.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Fy moment Engage to Change mwyaf falch oedd pan wnes i helpu unigolyn nad oedd yn gallu teithio yn annibynnol, dweud yr amser, neu delio gydag arian, i ddefnyddio’r bws i deithio i’w dref lleol. Teimlais mor falch pan gamodd e bant o’r bws am y tro cyntaf ar ôl cwblhau eu daith cyntaf yn annibynnol.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

  • Pobi
  • Coginio
  • Bwyta allan
  • Ymweld â llefydd/gwledydd newydd
  • Siopa
  • Gwario amser gyda my mhartner, teulu a ffrindiau
  • Peintio ac adnewyddu pethau
  • Dringo mynyddoedd

Bethan Hughes, Swyddog Cyflogaeth

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Fel Swyddog Hyfforddiant rwy’n cwrdd â’r bobl ifanc ar y rhaglen ac yn darganfod eu hoff a chas bethau ynglŷn â’r byd gwaith. Weithiau nad yw hi’n amlwg pa rôl bydd yn siwtio nhw, ond wrth i mi ddod i adnabod nhw bach yn well mae rhai rolau swydd yn dod yn fwy clir. Byddaf yna yn cyfarfod â cyflogwyr gwahanol sydd yn ffitio’r meini prawf gyda’r nod o’u cyfateb nhw gyda’r person ifanc.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Mae hi’n waith diddorol a gwerth chweil, yn enwedig pan ffeindwyd lleoliad gwaith sydd yn gweithio’n dda i’r ddau barti dan sylw.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Rydw i wedi bod y mwyaf falch pan mae pobl ifanc wedi cwblhau eu lleoliadau gwaith ac wedi llwyddo i sicrhau cyflogaeth. Mae gweld nhw mor hapus a balch o’u cyflawniadau yn fy wneud i’n falch iawn.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Fy prif diddordeb y tu allan i’r gwaith yw golff, er iddo fod yn gêm hynod o rhwystredig ar adegau. Rwy hefyd yn mwynhau chwarae badminto, ac yn caru ffilm dda.