Chwilio yn ol llais

Mae’n bleser i gyhoeddi bod ymgeisydd llwyddiannus wedi’i benodi fel y Llysgennad Arweiniol Engage to Change, a’r ymgeisydd hynny yw Gerraint Jones-Griffiths! Cafwyd Gerraint ei ddewis gan panel cyweld yn dilyn gweithdrefn recriwtio a oedd yn cynnwys proses cyfweliad dwy-ddiwrnod ar gyfer ymgeiswyr o’r rhestr fer.

Fe fydd y Llysgennad Arweiniol yn trefnu a cefnogi Llysgenhadon y Prosiect (i’w recriwtio), tra hefyd yn annog cyfranogiad trwy hyrwyddo’r prosiect mewn ystod eang o ddigwyddiadau gan gynnwys diwrnodau agored, ymweliadau ysgol, ac ymweliadau i cyflogwyr potensial. Fe fydd ei bersbectif fel rhywun sydd wedi bod trwy’r prosiect ei hunain yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i bobl ifanc, rhieni/gofalwyr, a cyflogwyr.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda Gerraint ac rwyf wrth fy modd ei fod yn ymuno a ni,” dywedodd Cyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan Joe Powell, y partner Engage to Change fydd nawr yn cyflogi Gerraint. “Rwy’n gwybod bod e wedi bod yn ased go iawn i Anabledd Dysgu Cymru, sydd wedi dangos iddo cefnogaeth a ffydd enfawr yn y cyfleoedd y maent wedi rhoi iddo. Roedd yr holl ymgeiswyr yn wych a cawsom argraff arnom gan bob un ohonynt. Heb amheuaeth y broses cyfweliad oedd un o uchafbwyntiau fy amser gyda PGCG. Dawn enfawr, a phob un yn berson hyfryd.”

Mae Gerraint ei hunain yr un mor falch â’i rôl newydd. “Diolch Engage to Change, rydw i wir yn edrych ymlaen at fod yn eich Llysgennad Arweiniol. Fy athroniaeth yw gall pobl ifanc gydag awtistiaeth ac/neu anabledd dysgu llwyddo yn y gweithle trwy’r prosiect anhygoel yma a trwy ein partneriaid darpariaeth ELITE Supported Employment ac Agoriad Cyf.

Rydw i wir yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol Joe Powell, Swyddog Datblygu’r Cyngor Cenedlaethol Tracey Drew a’r holl tim yn PGCG, ond rydw i wedi mwynhau’n fawr bod yn Weinyddwr y prosiect a byddaf wir yn colli’r tim anhygoel rwy’n galw fy nheulu yn Anabledd Dysgu Cymru.”

Mae Gerraint wedi bod yn aelod gwerthfawr o Anabledd Dysgu Cymru yn ystod ei amser fel gweinyddwr ar gyfer Engage to Change. Byddwn ni wir yn colli Gerraint fod yn rhan o’n tim, ond rydyn ni wrth ein boddau i wybod y bydd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan nawr yn elwa o’i holl sgiliau ac angerdd. Llongyfarchiadau i Gerraint, rydyn ni’n siwr y bydd yn gwneud Llysgennad Arweiniol ardderchog.