Chwilio yn ol llais

Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn cynnal digwyddiad asesu prosiect ar-lein i rywun gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth i ddweud eu dweud am brosiect Engage to Change.  Gallwch chi ddarganfod mwy am yr hyn mae prosiect Engage to Change wedi bod yn gwneud a rhoi gwybod i Bobl yn Gyntaf Cymru Gyntaf am yr hyn rydych chi’n meddwl am waith y prosiect.  Gallwch chi roi gwybod iddyn nhw hefyd os oes rhywbeth rydych chi’n meddwl dylai’r prosiect wneud yn wahanol.

Caiff y digwyddiad ei gynnal ar Zoom ddydd Gwener 15fed Ionawr 2021 o 12yp i 2yp.

87325141771 yw cod cyfarfod Zoom i ymuno â’r digwyddiad.  790549 yw’r cod mynediad.

I wybod mwy neu gael help am sut i ddefnyddio Zoom, cysylltwch â Tracey Drew trwy e-bost: tracey@allwalespeople1st.co.uk neu ar y ffôn: 07956 082211.