Chwilio yn ol llais

 

Mae ein grwp newydd o interniaid Engage to Change DFN Project SEARCH ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cwblhau ei wythnos ymsefydlu! Roedd yr wythnos, llawn gwybodaeth a gweithgareddau, yn cynnwys ymarferion adeiladu tim. Adeiladodd yr interniaid tyrrau sbageti a marshmallow ac fe wnaeth y twr uchaf ennill!

Cymrodd y grwp rhan hefyd yn hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gyda Dr Steve Beyer. Dysgon nhw beth mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn meddwl, sut i gydnabod gwahaniaethu a sut mae’r brifysgol yn gwneud yn siwr bod ganddynt weithlu cyfartal ac amrywiol.

Yn dilyn yr wythnos ymsefydlu, mae’r interniaid wedi bod yn yn cymryd eu camau cyntaf tuag at yr interniaeth cyntaf o dri.

Dechreuodd Jason ei interniaeth cyntaf ar ddydd Llun yr ail o Hydref ac fe fydd yn gweithio gyda’r tîm porthor yn yr adran Gwyddorau Biolegol yn yr Adeilad Syr Martin Evans. Fe fydd e’n cyfeirio myfyrwyr i theatrau darlithio yn ogystal â cefnogi’r timau porthor gyda’i ddyletswyddau nhw. Mae e wedi setlo mewn yn dda ac yn barod yn gwneud argraff dda ar ei cydweithwyr.

Mewn newyddion DFN Project SEARCH arall, gaeth hyfforddwr swydd ELITE Supported Employment Lily Beyer a cydlynydd gwirfoddoli Benny Griffiths ddiddordeb o dros 50 o wirfoddolwyr yn ffair gwirfoddoli Prifysgol Caerdydd ar ddiwedd mis Medi. Wedi hynny fe ddaliwyd sesiwn hyfforddi gyda presenoldeb pump gwirfoddolwr ymroddedig, pwy y bydd yn dechrau yn swyddogol ar 10fed Hydref pan mae’n nhw’n dod i gwrdd â’r interniaid.