Chwilio yn ol llais

Yn draddodiadol mae mis Awst yn fis eithaf tawel ac nid yw’r mis hwn wedi bod yn eithriad! Fel y dywedais y mis diwethaf, rwy’n parhau i wella fy sgiliau technoleg ac ar 20 Awst roeddwn i’n cynnig ‘cymorth technoleg’ ar gyfer Sioe Deithiol ‘Through our Eyes Photography’. Dyma brosiect newydd Pobl yn Gyntaf Cymru sy’n ceisio rhannu straeon am brofiadau pobl gydag anableddau dysgu drwy ffotograffiaeth, fideo a chyfryngau cymdeithasol. Roeddwn i’n falch o allu helpu ac mae’n enghraifft arall o sut mae fy sgiliau technoleg wedi gwella dros y misoedd diwethaf.

Rwy’n dal i fynychu Grŵp Cynnwys Rhanddeiliaid Gwefan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. Mae fy Oriau Hwyl wedi parhau ar ddyddiau Mawrth ac fe wnaeth person newydd ymuno â ni yr wythnos diwethaf. Ni wnaethon ni gynnal pleidlais i gael barn ar y prosiect y tro hwn gan fod y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, sy’n gwerthuso’r prosiect, ar wyliau.
Rwyf wedi bod yn rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer dathliadau penblwydd Pobl yn Gyntaf Cymru a’r Gynhadledd Flynyddol ym mis Hydref a byddaf yn rhoi fy sgiliau cyflwyno ar waith drwy gynnal digwyddiad hwyliog ar ddiwedd y diwrnod o’r enw Hootenanny Gerraint!

Rwyf wedi e-bostio’r holl Lysgenhadon ar gyfer y prosiect Engage to Change y mis hwn, i gadw mewn cysylltiad a gweld sut maen nhw’n dod ymlaen. Rwyf hefyd yn parhau i wneud diweddariadau wythnosol ar y coronafeirws ar gyfer sianel deledu Hunan Eiriolaeth Pobl yn Gyntaf Cymru, sydd hefyd yn cael eu rhannu ar Facebook a Twitter.