Chwilio yn ol llais

Ffeiliau testun bach ydy ‘cwcis’ sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur neu eich dyfais symudol gan y gwefannau yr ydych yn ymweld â nhw. Maen nhw’n cael eu defnyddio’n helaeth ar draws y rhyngrwyd gan alluogi gwefannau i gofio pethau defnyddiol fel y lleoliad yr ydych wedi’i osod ar gyfer diweddariadau tywydd neu ba eitemau yr ydych wedi eu safio yn eich basged siopa. Er nad ydyn nhw’n orfodol, mae cwcis fel rheol yn gwella eich profiad ar y we.

Mae ein gwefan yn defnyddio Google Analytics, y gwasanaeth ystadegau gwefan a ddefnyddir amlaf (gyda the New York Times a Twitter ymysg ei gwsmeriaid). Pan fyddwch yn ymweld â’n safle, mae Google Analytics yn storio cwci ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol. Yna defnyddir y cwci yma i ddarparu data defnyddio inni, sydd yn ein helpu i wella profiad ein defnyddwyr. Beth mae hyn yn ei olygu ydy ein bod yn gallu cyfrif faint o bobl sydd yn ymweld â’r wefan yma a dadansoddi pa dudalennau ydy’r rhai mwyaf poblogaidd. Yn dâl am y gwasanaeth y mae’n ei ddarparu mae Google yn cael mynediad i ddata dadansoddol sydd wedi’i storio yn y cwci hwnnw. Dydy Google DDIM yn cael mynediad i ddata personol adnabyddadwy penodol fel eich enw, cyfeiriad e-bost neu fanylion mewngofnodi, trwy’r wefan yma. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Google yma.

Dydyn ni ddim yn gwerthu gwybodaeth a gesglir gan y cwcis y mae ein gwefan yn eu gosod a dydyn ni ddim chwaith yn datgelu’r wybodaeth i drydydd partïon ac eithrio pan fydd hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith (er enghraifft os ydy corff llywodraeth neu asiantaeth gorfodi’r gyfraith yn gofyn am yr wybodaeth).