Chwilio yn ol llais

Teithiodd Andrea Meek ac Elisa Vigna o’r tîm ymchwil Engage to Change i Athens i gyflwyno canlyniadau’r prosiect i 5ed Cyngres Ewrop IASSIDD.

Mae IASSIDD (International Association for the Scientific Study of Intellectual and Developmental Disabilities) yn casglu at ei gilydd pobl proffesiynol ac ymchwilwyr o bob cornel o’r byd.

Cadeiriodd Andrea symposiwm ar ‘Cyflogaeth â Chymorth a Hyfforddiant Swydd,’ un o’r ychydig gyfraniadau ar cyflogaeth â chymorth a cyflogaeth ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Roedd y symposiwm yn cynnwys dau bapur a gyflwynwyd gan Borja Jordan de Urries, y cyntaf yn archwilio rôl hyfforddiant swydd yng nghyflogaeth â chymorth yn Sbaen, a’r ail yn cyflwyno rhaglen interniaeth Prifysgol Salamanca o’r enw ‘Practicapaces.’ Cyflwynodd Elisa canlyniadau’r prosiect Engage to Change ar ddiwedd yr ail flwyddyn, yn tanlinellu rôl pwysig hyfforddwyr swydd i ddarparu canlyniadau cyflogaeth go iawn. Cyflwynodd Andrea canlyniadau Engage to Change: DFN Project SEARCH yng Nghymru dros y ddau flwyddyn cyntaf.

Roedd y symposium yn lwyddiant mawr, ysbrydoledig ar gyfer llawer o fynychwyr, ac wedi ei dilyn gan drafodaeth bywiog ar y strategaethau gwahanol i fynd i’r afael â heriau cyflogaeth ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn gwahanol gwledydd ar draws y byd. Daeth pynciau fel cynaliadwyedd, lefel anableddau, hyfforddiant swydd, a mentora i’r amlwg fel blaenoriaeth uchel ar gyfer cynnydd yn y dyfodol.