Chwilio yn ol llais

 

“Pan wnes i ddarganfod yn gyntaf bod gen i’r swydd ar ôl y cyfweliad, roedd hi’n teimlad da,” meddai Michael Allcock, aelod diweddaraf ein tîm o lysgenhadon Engage to Change. “Roeddwn i’n teimlo’n gyffous ac yn falch fy mod wedi ei gael.”

Ym Medi, daeth Michael y pumed llysgennad prosiect i gael ei cyflogi gan Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn dilyn proses ymgeisio a cyfweliad hygyrch. Mae’n ymuno â Gerraint, Jordan, Elsa, George a Jonathan i hyrwyddo Engage to Change yn nigwyddiadau, cynhadleddau a cyfarfodydd ar draws Cymru o bersbectif pobl sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect eu hunain.

Tan tua dwy flwyddyn yn ôl, roedd Michael yn wirfoddolwr gyda Mencap Cymru ar ôl cymryd rhan yn y prosiect Play Our Way. Yna fe ddaeth e’n un o’r bobl ifanc cyntaf i ymuno â’r prosiect Engage to Change newydd a derbyniodd hyfforddiant swydd a cymorth cyflogaeth un-i-un o partneriaid darparu’r prosiect, ELITE. Dyma oedd ei swydd cyflogedig cyntaf, ac yn y ddwy flwyddyn nesaf mae wedi llwyddo i gynnal ei cyflogaeth gyda Mencap. “Rwy’n bles fy mod wedi datblygu o gwirfoddoli i swydd â thâl,” meddai Michael. “Rwyf wedi bod eisiau gyrfa gyda Mencap am gyfnod.”

Fel rhan o’i rôl gyda Mencap Cymru, mae Michael yn ateb y drws a’r teleffon, yn delio gyda printio ar gyfer y sefydliad, yn cynorthwyo gyda gwaith clercyddol ar gyfer y tîm Cymorth Personol, ac yn delio gyda’r post, ochr yn ochr â tasgau amrywiol arall sy’n codi yn y swyddfa yng Nghaerdydd fel sganio, ffotocopio, a clirio i ffwrdd ar ôl cyfarfodydd. I ddechrau, rhoddir cymorth gan hyfforddwyr swydd o ELITE trwy Engage to Change, a helpodd e i roi prosesau mewn lle er mwyn cwblhau tasgau gyda mwy o effeithlonrwydd ac i safon uwch, yn ogystal â dysgu tasgau newydd nid oedd yn gyfrifol amdanynt fel gwirfoddolwr. Dros amser, cafodd y cymorth un-i-un ei dynnu’n ôl yn raddol wrth i Michael ddod yn weithiwr mwy annibynnol , a heddiw mae Michael yn ffynnu fel rhan o dîm Mencap Cymru.

“Mae Michael yn ased,” meddai Kieran McCargo, ei mentor a cydweithiwr yn Mencap Cymru. “Bydd e’n gwneud yn dda iawn [fel llysgennad]. Rwy’n credu bydd e’n annog pobl arall i gymryd rhan oherwydd mae wir wedi rhagori.” Pan ddechreuodd Michael fel gwirfoddolwr, roedd e’n dawel iawn. “Dros y blynyddoedd mae wedi dod llawer yn fwy hyderus.”

 

Mae Michael yn cytuno ei fod wedi tyfu mewn hyder dros gyfnod ei amser mewn cyflogaeth. Tra mynegodd bryderon dros trefniadau teithio ar gyfer ei rôl fel llysgennad, mae wedi cael sicrwydd y bydd cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer cefnogaeth briodol i’w alluogi i gyflawni ei rôl. Mae Michael nawr yn gobeithio datblygu ei hyder a’i annibyniaeth teithio yn bellach trwy’r cyfleoedd bydd yn dod ei ffordd fel rhan o’r rôl newydd fel llysgennad, gan gynnwys cyfleoedd siarad cyhoeddus. “Rwyf am ddatblygu gydag ysgrifennu a siarad cyhoeddus ac mae’r prosiect Engage to Change yn fy helpu gyda hynny.”

Mae Michael yn falch ei fod wedi dangos yn ystod y cyfweliad y bydd y profiad a sgiliau y mae wedi ennill yn ei swydd cyntaf yn werthfawr yn ei ail swydd – fel llysgennad Engage to Change. Mae’n gwybod ni fydd popeth yn mynd yn esmwyth o hyn ymlaen, ond mae’n gweld mwynhau goresgyn heriau. “Rwy’n teimlo ei fod yn brofiad cyffrous. Mae’n mynd i fod yn her gyda profiadau da newydd i ddysgu oddi wrthynt hefyd.”