Chwilio yn ol llais

Ar ddydd Gwener 28ain Medi, cynhaliwyd y Sioe Awtistiaeth Cymraeg yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae’r digwyddiad poblogaidd dros ben yma yn denu dros mil o bobl sy’n dod gyda’i gilydd i gyfnewid gwybodaeth, gwneud cysylltiadau, ymofyn cymorth, ac i gael eu ysbrydoli. Roedd Jordan a George, Llysgenhadon Engage o Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, ar law i siarad ynglŷn â’i profiadau nhw ar y prosiect, ochr yn ochr â aelodau o staff y prosiect o Anabledd Dysgu Cymru ac ELITE Supported Employment. Mi oedd di’n gyfle gwerthfawr i gwrdd â phobl oedd yn gyffrous gan y posibilrwydd y gallai’r prosiect eu helpu nhw, eu hanwyliaid, neu’r bobl maen nhw’n cefnogi, yn ogystal â clywed straeon positif gan y rheini a oedd eisoes yn gyfarwydd â gwaith y prosiect.