Chwilio yn ol llais

Peter Obradovic, Hyfforddwr Swydd

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Fel hyfforddwr swydd byddaf yn cefnogi a hyfforddi pobl ifanc gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth i’w helpu nhw i ennill a chynnal profiad gwaith, ac yn y pen draw cyflogaeth.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Dysgu sgiliau newydd a bod yn rhan o dîm llwyddiannus ac ysgogol. Yn anad dim rydw i’n edrych ymlaen at ymgysylltu gyda’m cleientiaid, ei helpu nhw i oresgyn ei anawsterau ac i dyfu mewn hyder yn y gweithle ac fel unigolyn.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Gan mai dim on am bythefnos yr wyf wedi bod yma, rhaid ei fod yn ymuno â’r tîm. Rwy’n edrych ymlaen at rhannu llawer o amseroedd cyffrous a gwobrwyol gyda phawb yn y dyfodol.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Fe nheulu a fy ffrindiau yw’r pwysicach i mi ac mae gwario amser gyda nhw yn amhrisiadwy. Rydw i hefyd yn gefnogwr mawr o glwb pel-droed Dinas Caerdydd, rwyf wedi bod yn ddeiliad tocyn tymor am nifer o flynyddoedd ac wedi cefnogi nhw ers i mi fod yn ddeg. Rwy’n caru digwyddiadau cerddoriaeth fyw ac yn ceisio mynd i sawl cyngerdd mawr y flwyddyn. Rwyf hefyd yn caru cerdded fy nau gi ar hyd ein llwybrau arfordirol a gwledig.