Chwilio yn ol llais

Fe penodwyd Gerraint Jones-Griffiths fel Llysgennad Arweiniol ar gyfer y prosiect Engage to Change ym Mawrth 2018. Mae’n gweithio ar gyfer sefydliad partner Engage to Change, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Yma mae’n ein diweddaru ni ar beth mae wedi bod yn gwneud ers ei penodiad i’r swydd.

Cyfarfûm â phartneriaid Engage to Change, Agoriad, ar 20fed Mawrth, ac fe cytunodd Robyn ac Arthur i fod yn fentoriaid i mi. Mae hyn yn meddwl fe fyddai’n gweithio’n agos gyda Agoriad i hybu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc sy’n byw yn ardaloedd glwedig o Ogledd Cymru.

Rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â partneriaid Engage To Change ELITE yn Ne Cymru yn fuan.

Ar 13fed Mawrth cadeiriais digwyddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r enw ‘Credu Ymhob Plentyn’. Roedd y digwyddiad mewn partneriaeth gyda 1000 Bywyd.

Yn fy nghyflwyniad fel Cadeirydd siaradais am y cyfleoedd mae’r prosiect Engage to Change yn creu ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu ac / neu cyflyrau sbectrwm awtistaidd.

Nid yw’r ffaith bod gan rhywun anabledd dysgu ac / neu cyflwr ar y sbectrwm awtistaidd yn meddwl nad ydyn nhw’n gallu cyfalwni beth maen nhw eisiau.

Yr wyf wedi cael arwyddair o oedran cynnar, hyn yw ‘Nid yw A ar gyfer awtistiaeth, ond ar gyfer ‘achievement’.

Gan Gerraint Jones-Griffiths, Llysgennad Arweiniol Engage to Change. I ymgeisio i ddod yn Llysgennad Prosiect Engage to Change, ymwelwch â’r tudalen yma am fwy o wybodaeth: http://allwalespeople1st.co.uk/rydym-yn-recriwtio-llysgenhadon-prosiect-engage-change/?lang=cy