Chwilio yn ol llais

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd ar gyflogaeth a sgiliau. Mae’n cynnwys nifer o fesurau y mae Engage to Change wedi bod yn dadlau drosto a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.

Beth ydy’r cynllun?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y polisi “Cymru gryfach, decach, gwyrddach:cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau” ym Mawrth 2022 ac mae’n blaenoriaethu 5 maes allweddol:

*pobl ifanc yn gwireddu eu potensial

* delio gydag anghyfartaledd economaidd

*hyrwyddo gwaith teg i bawb

*cefnogi pobl gyda chyflwr iechyd hir dymor i weithio

*meithrin diwylliant dysgu am oes

Drwy’r holl gynllun yma mae mesurau i gefnogi pobl anabl i weithio a sicrhau bod gan bawb y cyfle i weithio gydag amodau gwaith da yn integredig i’r gwahanol adrannau.

Delio gydag anghyfartaledd

 Mae Llywodraeth Cymru yn datgan mai un o’r prif nodau ydy delio gydag anghyfartaledd a chreu gweithlu sydd yn adlewyrchu cymdeithas a’n cymunedau. Gwyddom mai dim ond 5.1% o bobl gydag anabledd dysgu gydag anghenion cefnogi uwch sydd mewn gwaith cyflogedig. Rydym felly yn arbennig o hapus o weld ymrwymiad cryf i gefnogi pobl gydag anabledd dysgu i gael gwaith. Credwn bod busnesau angen rhagor o gefnogaeth i sicrhau bod ganddyn nhw arfer recriwtio cynhwysol a sicrhau bod gweithleoedd yn hygyrch i bawb. Yn y cynllun cyflogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu ei fod yn gweithio tuag at hyn drwy recriwtio tîm o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a fydd yn cefnogi busnesau gyda recriwtio a chadw pobl anabl. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu arwain cyflogwyr i gefnogi pobl anabl a’r  rhai gyda chyflyrau iechyd hir dymor yn y gweithle drwy fesurau ymarferol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn crybwyll cefnogaeth sgiliau a chyflogadwyedd wedi’i anelu yn benodol i gefnogi grwpiau cefnogi sydd ar hyn o bryd wedi’u tangynrychioli ac sydd yn aml yn dioddef gwahaniaethu yn y gweithle. Un mesur yr ydym yn neilltuol o hapus i’w weld ydy’r cynllun i wella mynediad i raglenni cyflogadwyedd i bobl gydag anabledd dysgu drwy ddarparu cefnogaeth hyfforddwr swydd dwys arbenigol. Rydym yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i osod a monitro targedau amrywiaeth ac i weithredu nifer o fesurau penodol yn cynnwys prentisiaethau a fydd yn cefnogi’r grwpiau sydd fwyaf ar y cyrion i waith.

Cefnogaeth i bobl ifanc

Mae Llywodraeth CFymru wedi ymrwymo i gryfhau cydweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i gefnogi pobl anabl yn well i gael gwaith. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i gael cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant swydd a chyflawni llwyddiant yn y gweithle. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo delio gyda’r bwlch rhwng pobl ifanc anabl a phobl ifanc heb fod yn anabl sydd ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant (NEET). Roedd 19.7% o bobl ifanc anabl yn NEET dros gyfnod o dair blynedd ac mae hyn yn codi i 40.0% i’r rhai rhwng 19-24 oed. Mae hyn yn cymharu gyda 6.8% a 9.4% fel ei gilydd o bobl ifanc heb fod yn anabl. Mae’r prosiect Engage to Change wedi dangos y gall pobl ifanc gyda’r gefnogaeth gywir lwyddo yn y gweithle a gwella eu llesiant a’u hapusrwydd cyffredinol yn sylweddol. Mae cynlluniau i wneud y gefnogaeth yma yn haws i’w gael felly yn galonogol iawn.