Chwilio yn ol llais
  1. Fe allwch chi neu rhywun sy’n adnabod chi ffonio ni i ddweud wrthon eich bod chi â ddiddordeb yn y prosiect.
  2. Fe fyddwn ni’n ffonio chi nôl o fewn 2 ddiwrnod.

3. Fe fyddwn ni’n ffonio chi eto o fewn 2 wythnos. Fe fyddwn ni’n siarad â chi am y prosiect a ffeindio mas os allwch chi gymryd rhan.

4. Os na allwch chi gymryd rhan, fe fyddwn ni yn rhoi gwybodaeth i chi am ffyrdd arall i gael help.

5. Os allwch chi gymryd rhan fe fyddwn yn trefnu i ymweld â chi yn eich cartref o fewn 1 mis.

6. Yn y cyfarfod hon fe fyddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi i ffeindio mas mwy amdanoch chi.

7. Fe fyddwn ni’n cyfarfod â chi eto yn fuan ar ôl hynny i ofyn rhagor o gwestiynau i chi. Fe fydd hwn yn helpu i ffeindio swydd addas i chi.

8. Dros y 6 mis nesaf fe fyddwn ni’n helpu chi i baratoi ar gyfer y gwaith.