Chwilio yn ol llais

Ymddieithrwyd Nathan am beth amser cyn i ni ddechrau gweithio gyda’n gilydd. Roedd wedi cwblhau nifer o leoliadau profiad gwaith, ond nid oedd yr un ohonynt yn darparu’r lefel o gefnogaeth yr oedd angen iddo lwyddo. Yna fe ddaeth Engage to Change!

Mae Nathan nawr wedi bod yn gweithio yng Nghaffi Rabaiotti yng Ngwmbrân ers ddiwedd Rhagfyr 2016. Dros amser, mae ei oriau wedi cynyddu fel ei bod nawr yn gweithio am deuddeg awr dros tair diwrnod yr wythnos, ac mae wedi wedi mynegi ei awydd i weithio mwy. Mae ei dasgau yn cynnwys cymryd bwyd i gwsmeriaid, clirio byrddau, dychwelyd llestri a chyllyll a ddefnyddiwyd i’r gegin a defnyddio’r peiriannau golchi i olchi’r llestri budr.

Hoff rhan Nathan o’r swydd yw cymryd gorchmynion mas i gwsmeriaid, ac mae wedi cael y cyfle i gwrdd â amrywiaeth o bobl yn ei swydd. Mae’n mwynhau sgwrsio gyda chwsmeriaid a gwneud yn siwr ei bod nhw’n mwynhau ei hunain. Mae yna rhai cwsmeriaid rheolaidd y mae Nathan yn eu hadnabod yn ôl enw, ac mae e’n caru cael y cyfle i rhyngweithio gydag aelodau arall o staff a teimlo ei fod yn rhan o dîm. Mae Nathan yn ffeindio rhai rhannau o’r swydd yn anodd, er enghraifft defnyddio’r peiriant golchi, ond mae bob amser yn hapus i weld swydd wedi’i wneud yn dda.

Mae Nathan yn hoffi gwylio ffilmiau, mynd i’r sinema, a gwario amser gyda’i rhieni cu a teulu arall. Fe’i cyfeiriwyd atom gan ei fam, a ffeindiodd gwybodaeth am y prosiect pan oedd e dal yn ifanc iawn a mynychodd hi ddigwyddiad cynnar. Mae hi a gweddill teulu Nathan yn hapus i weld faint mae ei hyder wedi cynyddu ers iddo fod yn gweithio yn Rabaiotti’s. Cyn ddechrau’r prosiect yma roedd Nathan yn swil iawn, ac yn anghyfforddus yn teithio ar ben ei hunain, ond nawr mae e’n gallu dal y bws yn ôl ac oddi wrth ei waith ar ben ei hunain.

Mae Nathan yn teimlo mai’r prif sgiliau y mae wedi dysgu yw sut i ddelio â phwysau a sut i rhyngweithio gyda cwsmeriaid. Ar ddechrau’r lleoliad gwaith, roedd Nathan yn teimlo dan bwysau yn ystod amseroedd prysur o’r diwrnod. Felly, ymdrechwyd i helpu Nathan i ddatblygu ei sgiliau cymdeithasol ac i deimlo’n fwy cyfforddus yn symud o gwmpas lle prysur iawn. Ar ôl gweithio yn y caffi am sawl mis, mae Nathan nawr wedi datblygu ffyrdd i ddelio gyda pwysau ac yn gallu parhau gyda’i waith yn ystod prysurdeb amser cinio. Mae hefyd yn teimlo bod ei hyder wedi cynyddu, sy’n meddwl ei bod yn gallu delio gyda’i nerfusrwydd yn well tra’n rhyngweithio gyda’r cyhoedd. Yn ddiweddarach, cefnogwyd Nathan i fireinio ei sgiliau cadw amser, ac i weithredu peiriannau penodol yn nghegin y caffi.

Mae Nathan wir yn mwynhau amgylchedd ei weithle ac yn caru siarad i gwsmeriaid. Mae’n frwd iawn i i barhau i weithio mewn arlwyo, ac mewn amser yn gobeithio gweithio mwy o oriau.

Stori gan ein partneriaid yn ELITE.