Chwilio yn ol llais

Fy enw i yw Elsa Jones ac rydw i’n Llysgennad Prosiect ar gyfer Engage to Change. Mae Gerraint y Llysgennad Arweiniol wedi gofyn i mi i ysgrifennu’r blog yma, yr wyf yn falch iawn o’i wneud.

Ar 17 Mehefin es i gyda Tracey Drew i fynychu Sioe Deithiol y prosiect ym Mhrifysgol Owain Glyndwr yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda presenoldeb da iawn.

Roedd yna siaradwyr yn cynnwys dyn ifanc sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y prosiect, gofalwr maeth, a cyflogwr. Gan fy mod i’n llysgennad ar gyfer Engage to Change, fe wnes i hefyd siarad am y prosiect.

Siaradais am ba mor hir yr wyf wedi bod ar y prosiect Engage to Change ac am fy rol fel llysgennad. Fe wnes i hefyd siarad am y swyddi yr wyf wedi cael trwy gweithio gydag Agoriad Cyf, o ble y gall pobl gael gwybodaeth, a’r pobl anhygoel rydw i wedi cwrdd â nhw.

Mae’r dyn ifanc o Ogledd Cymru a wnaeth siarad hefyd wedi derbyn cymorth oddi wrth Agoriad Cyf trwy Engage to Change.  Siaradodd am ei swydd yn Morrisons, ble mae’n gweithio fel glanhawr a wir yn mwynhau ei swydd. Dywedodd bod ganddo llawer o help oddi wrth Agoriad Cyf a llawer o help o’i cyflogwr hefyd.

Roedd y gofalwr maeth o Ogledd Cymru yn ddynes neis iawn. Dywedodd ei bod hi’n arfer cael swydd, ond yna penderfynodd i ddod yn ofalwr maeth gan bod hyn yn rhywbeth mae hi wedi bod eisiau ei wneud ers amser maith. Mae hi wedi magu dyn ifanc o oed ifanc. Fe siaradodd hi am addysg, hobiau, a diddordebau’r dyn, ei swydd, a’i profiad gyda Engage to Change.

Siaradodd ddynes o Brifysgol Owain Glyndwr ynglŷn â sut mae adran y cyfryngau yn Wrecsam yn gweithio gyda Engage to Change i gefnogi swydd ar gyfer cyfranogwr. Mae hi wir yn mwynhau ei swydd ac wedi cwrdd â myfyrwyr neis iawn dros y blynyddoedd.

Roedd pawb yn gyfeillgar iawn ac wedi mwynhau’r Sioe Deithiol.