Chwilio yn ol llais

Gerraint wrth ei ddesg yn Anabledd Dysgu CymruAr ddydd Iau 4ydd Ebrill am 9yh bu BBC One Cymru yn darlledu Richard and Jaco: Life With Autism, rhaglen ddogfen hynod o bersonol lle wnaeth yr actor Cymraeg Richard Mylan adlewyrchu ar ei brofiad o fagu mab ar y sbectrwm awtistiaeth. Siaradodd Gerraint ar y rhaglen am ei fywyd gydag awtistiaeth a’i gariad am ei swydd fel gweinyddwr Engage to Change. Ac am rhaglen eithriadol, wir yn cyffwrdd a’r galon! Ysbrydoledig, hunanddirnadol, ac yn ysgogi’r meddwl, wnaeth y bond rhwng Richard a Jaco ddisgleirio. Rydyn ni’n falch iawn wnaeth Richard ymweld a ni yn Anabledd Dysgu Cymru i gyfarfod a Gerraint, glywed ei stori, a ffeindio mas am y cyfle mae e wedi cael trwy Engage to Change. Gallwch chi wylio’r rhaglen ar BBC iPlayer yma.