Chwilio yn ol llais

Taflen fforwm gwerthuso

Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn cynnal digwyddiad rhad ac am ddim i ddarganfod beth mae pobl yn ei feddwl am y prosiect Engage to Change. Fforwm Gwerthuso yw’r enw ar y digwyddiad a bydd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 18 Mawrth 2020 rhwng 10am ac 1pm yn y Park Inn by Radisson, St Mary Ann Street, Caerdydd.

Mae’r fforwm ar gyfer unrhyw un ag anabledd dysgu, anhawster dysgu a/neu awtistiaeth i glywed am yr ymchwil ddiweddaraf i’r prosiect a dweud eu dweud ar sut mae’r prosiect yn gwneud. Nid oes angen i chi fod ag unrhyw brofiad o’r prosiect na bod wedi mynychu cyfarfod o’r blaen. Gall pobl sy’n mynd i’r fforwm hawlio costau teithio yn ôl.

I gadw eich lle yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Tracey Drew yn Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan trwy e-bost tracey@allwalespeople1st.co.uk neu ffonio 07956082211.