Chwilio yn ol llais

Yr wythnos yma, cyfarfodwch rhai o aelodau tim ymchwil Engage to Change! Caiff y tîm ei arwain gan Dr Stephen Beyer yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rydyn nhw’n gyfrifol am gasglu data yn foesegol ac yn effeithlon at ddibenion gwerthuso’r prosiect a dylanwadu newidiadau mewn polisi. Rydyn nhw’n cynhyrchu adroddiadau mewn perthynas â’r amgylchedd polisi cyfredol ac yn gweithio i sicrhau cynaliadwyedd y prosiect a’i etifeddiaeth.

Yn ychwanegol, rydyn nhw wedi cysylltu gyda’r rhaglen DFN Project SEARCH, arianwyd gan Engage to Change, sydd yn rhedeg ar hyn o bryd gyda Prifysgol Caerdydd yn chwarae rôl y cyflogwr. Fel canlyniad, yn ystod y trydydd tymor mae dau intern o DFN Project SEARCH wedi ymuno â’r tîm gyda’r prif ddyletswydd o fewnbynnu data. Cyfarfodwch â un ohonynt

Dr Elisa Vigna, Cynorthwy-ydd Ymchwil

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Rydw i’n perfformio amrywiaeth o dasgau: casglu data (cyfweliadau gyda pobl ifanc a’u teuluoedd), dadansoddi data, adrodd ar yr hyn yr ydym wedi darganfod.

Rwy’n cadw mewn cysylltiad gyda’r partneriaid darpariaeth i gadw’r llif data i fynd!

Rydw i hefyd yn mentora dau intern DFN Project SEARCH.

Rydw i’n cadw’n gyfredol gyda polisiau ar anabledd dysgu ac awtistiaeth yng Nghymru a Lloegr.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Rwyd wir yn angerddol ynghylch cyfweld a pobl ifanc a gwrando i’w lleisiau.

Rydw i wir yn mwynhau mentora ein interniaid DFN Project SEARCH interns a gweld sut mae ei dysgu yn datblygu dros yr wythnosau.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Mae hi’n wych i weld bod pobl ifanc yn ennill cyflogaeth.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Rwy’n caru fy mhlant, mynd i’r gampfa, nofio a seiclo. Rwy wir yn mwynhau coginio (nid dim ond bwyd Eidaleg!)

 

Andrea Meek, Cynorthwy-ydd Ymchwil

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Rydw i’n rhan o’r tim ym Mrifysgol Caerdydd sy’n gwerthuso’r prosiect Engage to Change. Rydw i’n helpu casglu a dadansoddi’r data a gwybodaeth yr ydym ni angen i ddangos bod y prosiect yn gweithio a bod angen arno yng Nghymru. Rwy’n cyfweld pobl ifanc, teuluoedd a cyflogwyr i weld beth maen nhw’n meddwl sy’n gweithio neu yr hyn y gellid ei wneud yn well.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Popeth (ar wahan i wneud ystadegau!) Rydw i’n hoffi cyfarfod a’r holl bobl sy’n ymwneud a Engage to Change ac rwy’n mwynhau cyfweld a phobl i glywed beth maen nhw’n meddwl am y prosiect.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Yn ddiweddar mynychon ni gynhadledd rhyngwladol ar cyflogaeth dan gymorth ym Mhelfast, ble rhoddon ni gyflwyniad ar y prosiect Engage to Change, roedden ni’n meddwl y byddwn ni’r siarad i 10 neu 20 o bobl, ond trodd tuag at 200 i fyny! Roedd hi’n braf wybod bod gymaint o bobl ar draws y byd yn clywed am Engage to Change!

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Rhai o fy hoff bethau yw:

  1. Fy mhlant (William 9 oed a Maisy 7 oed)
  2. Fy nghwn Mabel a Moose
  3. Ymweld a’r traeth
  4. Disneyworld, Fflorida
  5. Rollercoasters (y mwyaf y gwell!)

Jacob Meighan, Intern Ymchwil

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Rydw i’n helpu mas gyda mewnbynnu data, rydw i’n gyfrifol am wirio’r wybodaeth sydd yn dod i fy ebost, rydw i’n mewngofnodi ac yn danfon nôl i’r asiantaethau cyflogaeth â chymorth.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Rydw i’n hoffi gweithio mewn tîm gyda fy nghydweithwyr ac rydw i’n hoffi’r gwaith mewnbynnu data.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Ffeindio mas yn union pa swydd allai wneud a hoffwn i wneud – mewnbynnu data.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

  • Chwarae gemau fideo
  • Adeiladu setiau Lego
  • Mynd i’r sinema
  • Mynd allan i fwyta gyda fy nheulu.