Chwilio yn ol llais

Ddoe ymddangosodd Engage to Change ar BBC Radio Wales unwaith eto! Bu rhaglen Eye on Wales yr wythnos yma yn ffocysu ar y drafodaeth ynghylch Deddf Awtistiaeth i Gymru. Cafodd Carrie Francis, sydd wedi bod yn derbyn cymorth cyflogaeth o ELITE Supported Employment trwy’r prosiect Engage to Change, ei chyfweld am y rhaglen ynglyn a byw gydag awtistiaeth a’r cynnydd y mae hi wedi gwneud diolch i gymorth o Engage to Change. Gallwch chi wrando nol ar y rhaglen ar BBC iPlayer yma. Da iawn Carrie am gyfweliad gwych!