Chwilio yn ol llais

Lead Ambassador Gerraint at EHRC transport eventAr 10fed Chwefror fe wnes i fynd i gyfarfod Grŵp Ffocws Trafnidiaeth, oedd yn cael ei gynnal gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Trwy fy rôl fel Llysgennad Arweiniol gyda’r Prosiect Engage to Change mae pobl yn rhannu llawer gyda mi am eu profiadau o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu, a sut mae hyn yn effeithio ar eu gallu i wneud gwaith â thâl.

Roeddwn yn gallu bwydo trosolwg cyffredinol yn seiliedig ar yr hyn mae pobl eraill ag anabledd dysgu wedi’i ddweud wrthyf fi, a hefyd rhannu fy mhrofiadau fy hun o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roeddwn i’n teimlo fod y sesiwn yn gynhyrchiol iawn.

Ar 18fed Chwefror fe wnes i fynd i Gynhadledd Pobl yn Gyntaf Blaenau Gwent a siarad am y Prosiect Engage to Change. Fe wnes i rwydweithio gyda rhai aelodau o Pobl yn Gyntaf Torfaen a Pobl yn Gyntaf Casnewydd. Mae Pobl yn Gyntaf Torfaen wedi gofyn i mi ymweld â’r grŵp yn y dyfodol i siarad am y prosiect.

Lead Ambassador Gerraint at the NAS Cymru launch eventAr 24ain Chwefror, fe wnes i fynd i lansiad cangen newydd y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn Ogwr. Roeddwn i ar stondin gyda Bev o Elite. Bev yw’r Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr. Fe wnaethom ddosbarthu llawer o daflenni, ac roedd pobl yn awyddus i ddod i siarad â ni am y prosiect.

Ar 26ain o Chwefror fe wnes i fynychu’r hyfforddiant ar y Ddeddf Hawliau Dynol gyda Sefydliad Hawliau Dynol Prydain. Cafodd y sesiwn ei chynnal yn Llundain. Roedd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn i mi, ac mae gen i ddealltwriaeth lawer cliriach o gyfraith Hawliau Dynol a sut mae’n cyd-fynd â hunan-eiriolaeth.