Chwilio yn ol llais

I ddathlu ein penblwydd cyntaf, rydyn ni’n lansio cyfres yn tynnu sylw ar aelodau o’r tîm tu ol i Engage to Change. Yr wythnos yma rydyn ni’n troi’r goleuni ar Chris English, Rheolwr Gweithrediadau ELITE Supported Employment, partner darparu Engage to Change yn Ne Cymru.

Chris English, Rheolwr Gweithrediadau

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Rydw i’n rheoli’r staff a’r prosiect Engage to Change o fewn ELITE Supported Employment.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Tra’n cwblhau arsylwadau gyda’r staff rydw i’n cael cyfarfod â rhai o’r bobl ifanc o fewn y prosiect a weithiau rydw i’n cael cyfarfod a nhw yn hwyrach o fewn y prosiect. Gweld eu cynnydd yw’r hyn yr wyf yn mwynhau’r mwyaf.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Gweld person ifanc yn cyflawni un o’i nodau, gall hyn amrywio o deithio yn annibynol neu cyflawni profiad gwaith i’r nod terfynol o cynnal cyflogaeth.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Golff – Rydw i’n golffiwr brwd ac fe allwch fy ffeindio ar Cwrs Golff Rhondda ar y rhan fwyaf o benwythnosau ac ar nosweithiau’r gwanwyn a’r haf yn ceisio gwella fy handicap.

Seiclo – Rydw i hefyd yn feiciwr brwd, rydw i’n ceisio seiclo mor aml ag y gallaf i gadw’n heini.