Chwilio yn ol llais

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae dau carfan newydd o interniaid Engage to Change DFN Project SEARCH wedi dechrau ei taith ar y rhaglen yng Nghymru trwy Engage to Change. Mae un o’r grwpiau yma yn cymryd rhan mewn lleoliad cyfarwydd – ein safle gyda cyflogwr Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd gyntaf y llynedd mewn cydweithrediad â ELITE Supported Employment a Coleg Caerdydd a’r Fro.

Mae’r ail grwp wedi ei sefydlu yn ein safle newydd sbon yn Ysbyty Gwynedd, cydweithrediad rhwng partneriaid Engage to Change Agoriad Cyf, cyflogwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac addysgwr Coleg Llandrillo Menai.

Fe fydd interniaid yn cael y cyfle dros y tri tymor nesaf i weithio mewn tair interniaeth gwahanol i ddatblygu ei sgiliau, ennill profiad, a tyfu ei hyder a’r annibyniaeth. Yn dilyn llwyddiant ein rhaglen cyntaf yng Nghymru blwyddyn diwethaf, rydyn ni wir yn edrych ymlaen at ddilyn cynnydd yr interniaid y flwyddyn yma wrth i ni lansio’r safle newydd yng Ngogledd Cymru ac yn symud ymlaen i’r ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd.

Hoffwn estyn croeso cynnes i’r holl interniaid a dymuno iddynt pob lwc am y flwyddyn i ddod!