Chwilio yn ol llais

Enw: Hollie Newbury

Sut ydych chi’n teimlo am eich amser ar y rhaglen Engage to Change DFN Project SEARCH?

Mae hi wedi bod yn dda hyd yn hyn, beth allai ddweud.

Pa interniaethau ydych chi wedi gwneud ers i chi ddechrau Engage to Change DFN Project SEARCH?

Rydw i wedi bod yn cynorthwy-ydd gweinyddol a derbynnydd yn yr adran Adnoddau Dynol. Rydw i wedi bod yn yr un lle am dair o fy interniaethau ond mae’r tasgau wedi dod yn fwy cymhleth.

Beth oedd eich hoff interniaeth a pham?

Rydw i wir yn hoffi gweithio mewn Adnoddau Dynol oherwydd mae yna lot i wneud fel ffeilio, ateb y ffôn a helpu gyda’r ystafelloedd hyfforddiant. Roedd fy nghyd-weithwyr yn neis ac yn gwneud i mi deimlo’n dda.

Disgrifiwch rhai o’r tasgau wnaethoch chi yn ystod y flwyddyn.

  • Ffeilio
  • Diweddaru cofnodion staff ar system CORE y Brifysgol
  • Mewnbynnu data
  • Bwcio ystafelloedd hyfforddiant
  • Darparu gwasanaeth arlwyo i bobl sy’n gwneud cyrsiau hyfforddiant.

 

Sut mae hi wedi helpu chi i fod ar Engage to Change DFN Project SEARCH a beth ydych chi wedi dysgu yn ystod y flwyddyn?

Mae hi wedi helpu fi i wybod beth mae hi fel i weithio a sut allai gael swydd.

Sut mae Lily (hyfforddwr swydd), Kerri a Bev (hyfforddwyr y coleg) wedi helpu chi yn ystod y flwyddyn? Pa fath o gymorth ydych chi wedi derbyn ohonynt?

Maen nhw wedi helpu fi i gael swydd.

Pa fath o swyddi ydych chi’n gwneud cais amdano ac a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus eto?

Dyd i ddim wedi bod yn llwyddiannus eto ond rydw i wedi cael tair cyfweliad. Rydw i’n edrych am waith swyddfa fel gweinyddiaeth.

Nawr bod Engage to Change DFN Project SEARCH yn dod i ddiwedd, beth fyddwch chi’n hoffi gwneud, neu’n cynllunio gwneud, yn y dyfodol?

Cysgu! A cael swydd yn gweithio mewn gweinyddiaeth neu gofal plant.