Chwilio yn ol llais

Yr heriau

“Mae pobl gydag anabledd dysgu neu Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD) yn wynebu nifer o heriau wrth ddarganfod, derbyn, dysgu a chadw swydd gyflogedig.[…]  Dydy hyn ddim yn golygu na all pobl weithio. Mae’n golygu eu bod angen y math gorau o gefnogaeth.”

Mae Dr Steve Beyer, ymchwilydd arweiniol tîm gwerthuso Engage to Change ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cynhyrchu papur briffio ar y rhwystrau i gyflogaeth i bobl gydag anabledd dysgu ac/neu ASD, a sut y gellir goresgyn y rhwystrau hyn. Mae hefyd yn amlinellu’r pryderon y mae Engage to Change yn eu hamlygu ar gyfer dyfodol cyflogaeth gyda chefnogaeth yn dilyn Covid-19.

Mae cyfraddau cyflogaeth i bobl gydag anabledd dysgu ac/neu ASD yn isel iawn. Yn Lloegr dim ond 6% o oedolion gydag anabledd dysgu sydd yn wybyddus i awdurdodau lleol sydd mewn gwaith cyflogedig ac awgryma umchwil bod ffigurau yng Nghymru yn debygol o fod yn debyg. Dim ond 24% o oedolion gydag ASD yn Lloegr sydd mewn gwaith cyflogedig  ac mae tystiolaeth bod ffigurau i bobl gydag ASD yng Nghymru hyd yn oed yn is. Mae hyn mewn cymhariaeth gyda 53.2% o bobl 16 -64 oed  gydag unrhyw fath o anabledd ym Mhrydain ac 81.8%  o’r boblogaeth gyffredinol oedd mewn gwaith cyflogedig cyn y pandemig coronafeirws.

Beth sydd yn gweithio?

Mae’r prosiect Engage to Change, a gyllidir drwy Gronfa Gymuned y loteri Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc gydag anabledd dysgu ac/neu ASD yng Nghymru i oresgyn y rhwystrau i gyflogaeth drwy fodel cyflogaeth gyda chefnogaeth a hyfforddiant swyddi, wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn.

Mae ein hymchwil yn dangos bod pobl gydag anabledd dysgu ac/neu ASD sylweddol yn elwa o’r gefnogaeth ganlynol i’w helpu i oresgyn yr heriau maen nhw’n eu wynebu:

  • Deall diddordebau a sgiliau swyddi pobl a’r math o waith ac amgylcheddau maen nhw eu hangen.
  • Defnyddio lleoliadau gwaith a rhoi cynnig arni i gynorthwyo gyda gwneud penderfyniadau galwedigaethol.
  • Darganfod a thrafod swydd sydd yn ateb doniau ac anghenion manwl y person, dim unrhyw swydd sydd ar gael.
  • Hysbysu a chefnogi cyflogwyr i wneud cyfweliadau yn hygyrch, gan eu helpu i anwytho ac arolygu eu cyflogai.
  • Cynllunio’n dda gyda phobl a theuluoedd, a helpu pobl sydd yn derbyn budd-daliadau lles i fesur eu pontio i waith i sicrhau y byddan nhw’n well eu byd yn y gwaith

Mae Engage to Change wedi cyflawni canlyniadau sylweddol o ran helpu pobl ifanc i ddarganfod a chynnal cyflogaeth cyflogedig gyda 86% o’r swyddi a ddarganfuwyd yn cael eu cynnal am 13 wythnos neu ragor.  Un o’r ffyrdd y cyflawnwyd hyn oedd drwy amrediad o leoliadau gyda chyflog lle mae cyflogwr yn derbyn Grant Datblgu Cyflogwr. Gall hyn dalu am hyd at 100% o gyflog person ifanc dros gyfnod o chwe mis. Mae hyn yn galluogi’r cyflogwr i gael hyder yn y gweithiwr tra bod yr hyfforddwr swyddi a’r cyflogwr yn darganfod yr arddull hyfforddi a’r gefnogaeth orau. Mewn sawl achos mae’r lleoliadau yma wedi arwain yn llwyddiannus at swyddi cyflogedig parhaol. Gellir lleihau’r grantiau dros amser, o 100% o gyflog y person yn y mis cyntaf i lawr i ddim erbyn y chweched mis ac felly annog cyflogwyr i ymrwymo i swydd gyflogedig ynghynt yn hytrach nag yn hwyrach

Heriau yn y dyfodol: Beth sydd yn digwydd ar ôl y pandemig?

“Mae’n beryg y gallai pobl gydag anabledd dysgu neu ASD gael eu gwthio i ben draw’r rhestr. Mae pobl gydag anabledd dysgu neu ASD mewn perygl neilltuol o fod yn ddiwaith.  Rydym wedi gweld mewn rhaglenni cyflogaeth anabledd prif ffrwd bod ‘dewis y gorau’ yn gallu digwydd pan fo targedau perfformiad ar asiantaeth cefnogi yn bodoli a bod swyddi yn anodd i’w cael”

Mae arbenigwyr yn amcangyfrif y bydd effaith Covid-19 yn arwain at grebachu yn economi’r DU o hyd at 7.5% erbyn diwedd Mawrth 2021. Fe fydd hyn yn annorfod yn cael effaith sylweddol ar gyfraddau diweithdra, o bosibl yn cynyddu mor uchel â 10.5%. O dderbyn yr heriau y mae pobl gydag anabledd dysgu ac/neu ASD eisoes yn eu wynebu wrth chwilio am waith cyflogedig, mae’r dirywiad yn yr economi yn debygol o’i gwneud hyd yn oed yn fwy anodd i’r grŵp yma o bobl ifanc ddarganfod a chadw  gwaith cyflogedig.

Sut y gallwn gynyddu cyfleoedd?

Mae’r papur briffio yn esbonio bod rhaglenni cyfredol yn annhebygol o allu darparu cefnogaeth ddigonol i bobl gydag anabledd dysgu ac/neu ASD i fynd i mewn i’r farchnad lafur yn dilyn y pandemig oherwydd yr  adnoddau cyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer cefnogaeth briodol.

Mae profiad o’r prosiect Engage to Change yn dangos bod rhaid i unrhyw raglenni newydd neu rai wedi’u hailddylunio gynnwys cefnogaeth o ansawdd a dwyster digonol  i ateb anghenion penodol pobl gydag anabledd dysgu ac/neu ASD. Tanlinellodd Dr Beyer a’i dîm hefyd yr angen am adnoddau wedi’u clustnodi ar gyfer Gwasanaeth Hyfforddiant Swyddi Cenedlaethol “i sicrhau nad ydy pobl gydag anabledd dysgu ac/neu ASD yn cael eu gadael ar ôl yn y gystadleuaeth am swyddi newydd yn dilyn Covid-19.”

Mae cyflogwyr sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect Engage to Change wedi adrodd am lefelau uchel o foddhad gyda’r bobl, ifanc y maen nhw wedi eu cyflogi ac mae ymchwil blaenorol wedi dangos bod amrediad o fanteision i gyflogwyr wrth gyflogi pobl gydag anabledd dysgu ac/neu ASD. Ond mewn cyfnod o ddirwasgiad economaidd mae cyflogwyr yn debygol o fod yn fwy gofalus wrth wneud penderfyniadau recriwtio.  Fe fyddan nhw angen anogaeth a chefnogaeth i ystyried cyflogi pobl anabl. Gellid cyflawni hyn drwy gyflogaeth gyda chefnogaeth hyfforddwyr swyddi ac mewn rhai achosion, mentrau ariannol ychwanegol fel Grantiau Datblygu Cyflogwyr.

Mae prentisiaethau cynhwysol ac interniaethau gya chefnogaeth yn enghreifftiau pellach  o sut y gellir cefnogi pobl ifanc anabl i ddatblygu eu sgiliau a datblygu i waith cyflogedig. Mae Engage to Change wedi datblygu nifer o raglenni interniaethau gyda chefnogaeth 1 blwyddyn ar draws Cymru mewn cydweithrediad gyda cholegau lleol, Prosiect SEARCH DFN a chyflogwyr fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dengys ein ffigurau bod 58% o interniaid wedi cael gwaith cyflogedig o fewn 9 mis o raddio. Credwn y byddai darparu rhaglen Interniaeth gyda Chefnogaeth Cenedlaethol a Gwasanaeth Hyfforddiant Swyddi Cenedlaethol yn galluogi rhagor o bobl ifanc i bontio’n llwyddiannus o addysg i gyflogaeth. Fe fydd hyn yn neilltuol o bwysig ar adeg pan y bydd cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc sydd yn gadael ysgol neu goleg Addysg Bellach yn eithriadol o gyfyngedig.

Cliciwch yma i ddarllen y papur briffio yn llawn, yn cynnwys rhestr o argymhellion:

Mae fersiwn hawdd ei ddeall ar gael yma.