Chwilio yn ol llais

Ar ddydd Iau diwethaf Medi 28fed, mi oedd aelodau o’r tîm Engage to Change Anabledd Dysgu Cymru ac ELITE Supported Employment yn bresennol yn y Sioe Awtistiaeth Cymru a chafwyd ei ddal yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Gyda bagiau llawn pamffledi, nwyddau, a siocled, paratowyd y stondin yn barod am gyrhaeddiad tua 2000 o fynychwyr yn ystod y diwrnod.

Roedden ni’n hapus i weld Richard Mylan a Jaco unwaith eto, dau sêr y rhaglen ddogfen BBC Un, Bywyd Gydag Awtistiaeth, a wnaeth cynnwys Gerraint a Jenna o Engage to Change yn gynharach y flwyddyn yma. Richard and Jaco  a agorodd y sioe, diwrnod llawn arddangoswyr yn arddangos ei cynhyrchion a’i gwasanaethau, seminarau gydag amrywiaeth o siaradwyr, a’r cyfle i gwrdd unigolion, teuluoedd a pobl proffesiynol arall.

Trwy gydol y diwrnod daeth mynychwyr i’n stondin am sgwrs ac i ddarganfod mwy am beth mae Engage to Change yn cynnig, gan feddwl ein bod wedi gorffen y diwrnod gyda bagiau llawer yn ysgafnach na’r rhai a ddechreuon ni gyda! Cyfwelwyd Gerraint gan Able Radio, oedd yn darlledu o’r digwyddiad, gan cyd-gyfranogwr Engage to Change – Travis.

Diolch o galon i’r trefnwyr am ei gwaith ar y digwyddiad gwych yma, ac am rhoi’r cyfle i ni i godi ymwybyddiaeth y prosiect a siarad yn uniongyrchol â’r rhai yr ydym yn gobeithio eu cefnogi gyda’n gwaith.