Chwilio yn ol llais

Ddoe yn ystod Cwesitynau i’r Prif Weinidog siaradodd Hefin David AC am y prosiect Engage to Change mewn cwestiwn i’r Brif Weinidog Carwyn Jones. Yn dilyn o gwestiwn am ddysgu cynhwysol yn y gwaith, cyfeiriodd Mr David at Engage to Change fel prosiect gyda rôl pwysig i chwarae mewn rhoi cymorth i bobl ifanc gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i ennill cyflogaeth hir-dymor.

Siaradodd e hefyd am y goblygiadau i trawsnewidiadau o dan y trefniadau yn cael eu dwyn ymlaen gan y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd. Gofynodd Mr David os fyddai’r Brif Weinidog yn cefnogi model o’r fath yma os mae Engage to Change yn profi i fod yn llwyddiannus.

Atebodd y Brif Weinidog ei fod yn awyddus i wneud yn siwr bod gymaint ag sy’n bosib ar gael i helpu pobl mewn i gyflogaeth, yn enwedig y rhai sydd ag anabledd dysgu neu sydd ar y sbectrwm autistig, ac ei fod yn edrych ymlaen at gweld canlyniadau’r prosiect.

Diolch Hefin am eich cefnogaeth ac am godi ymwybyddiaeth am Engage to Change yn y Cynulliad.

Gwyliwch y cwestiwn a’r ateb yn y clip yma.