Gwell yn y gwaith
Gan Beverley Davies a Stacey Baker o bartneriaid Engage to Change, ELITE Supported Employment
Mae dechrau swydd newydd â thâl yn gyffrous ond gallai hefyd for yn bryder ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n derbyn unrhyw ffurf o budd-daliad, er enghraifft Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith. Yn ELITE rydym ni’n gwneud yn siwr bod gan pob person yr ydym yn gweithio gyda trwy’r prosiect Engage to Change y cyfle o gwblhau cyfrifiad gwell yn y gwaith er mwyn asesu os oes budd ariannol wrth symud i mewn i waith. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn well i ffwrdd os mewn gwaith. Mae gweithio hefyd yn dda ar gyfer ein iechyd a lles. Mae hi’n cyfrannu i’n hapusrwydd, yn ein helpu ni i fagu hyder a hunan-barch, ac yn adeiladu ar gyfeillgarwch a chynhwysiant cymdeithasol.
Y manteision o gwblhau cyfrifiad gwell yn y gwaith yw:
a) Mae’r cyfrifiad yn helpu’r person a’i deulu i wneud penderfyniad gwybodus ar beth sy’n gywir ar gyfer nhw yn ariannol wrth ddechrau gwaith.
b) Mae’n gallu roi arweiniad i bobl ifanc a’i teuluoedd ar faint o oriau o waith cyflogedig fyddai orau iddyn nhw a’u sefyllfa ariannol presennol.
c) Mae’n gallu gwneud y gorau o’u hincwm trwy mantesio ar fudd-daliadau priodol y mae ganddynt hawl iddynt.
d) Mae’n gallu darparu arweiniad ar ba fuddion a allai fod ar gael yn amodol ar gymhwyster.
e) Mae’n gallu darparu gwybodaeth ar effeithiau diwygio budd-daliadau.
Er mwyn helpu pobl ifanc ar y prosiect Engage to Change rydym yn darparu cyfrifiad gwell yn y gwaith ar-lein, gyda un o’n Ymgynghorwyr Cyflogaeth yn gweithredu fel arweinydd ar gyfer y teulu. Ein nod yw darparu cyngor cyfredol a sicrhau na roddir neb mewn caledi ariannol trwy ddechrau gweithio. Mae’r system yn galluogi’r defnyddiwr i gyflwyno amgylchiadau damcaniaethol a gweld yn glir yr effeithau ar eu hincwm – cyfanswm eu hincwm net a’r effaith ar fudd-daliadau’r unigolyn. Mae hi’n dangos yn glir a oes manteision ariannol o ddechrau gweithio.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol gan fod teuluoedd yn aml yn ffeindio bod y broses hefyd yn darparu cyngor ar budd-daliadau nad ydynt wedi’u hawlio eto, ond efallai eu bod ar gael os ydynt yn gymwys.
Dyma enghreifftiau o rhai o’r canlyniadau rydym ni wedi cael o’r cyfrifiad gwell yn y gwaith:
Enghraifft 1
Mae John yn byw gyda’i bartner Jane sydd hefyd ar y prosiect Engage to Change. Roedd lleoliad gwaith wedi’i ganfod ar gyfer John, a cynhaliwyd cyfrifiad gwell yn y gwaith. Oherwydd yr hawliad ar y cyd ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gyda’i bartner, gwnaethom wirio’r cyfrifiad gyda Canolfan Byd Gwaith. Fe’i nodwyd os y byddai John yn mynd i weithio byddai hyn yn golygu newid amgylchiadau ar gyfer ef a’i bartner. Byddai hyn yn golygu y byddai’n rhaid i Jane ddod i ffwrdd o’r Lwfans a mynd ymlaen i Gredyd Cynhwysol, a fyddai’n meddwl y byddai’n waeth ei byd ar fudd-daliadau. Yna fe fydd yn rhaid i John mynd ymlaen i Gredyd Cynhwysol oherwydd ei newid mewn amgylchiad, yn gwneud o’n waeth ei fyd yn y tymor hir. Fe’i cynghorwyd i’r ddau ohonynt aros nes eu bod yn cael eu trosglwyddo i’r Credyd Cynhwysol ac i wirfoddoli yn y cyfamser.
Enghraifft 2
Mae Bob ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Daethpwyd o hyd i leoliad gwaith iddo. Yn ystod cyfrifiad gwell yn y gwaith daeth i’r amlwg bod y swm yr oedd yn ei dderbyn am y Lwfans yn anghywir. Roedd yn cael ei dalu ar y gyfradd asesu a ddylai fod wedi para dim ond 13 wythnos. Roedd Bob wedi bod ar y gyfradd hon am 4.5 mlynedd. Ar ol trafod hyn gyda fy nghydweithwyr, siaradodd Bob a’i tad gyda’r Canolfan Byd Gwaith, a fydd yn trefnu asesiad ar gyfer Bob ac yn ad-dalu’r ol-dal o’r cyfnod 13-wythnos ymlaen.
Nodwch bod enwau wedi cael eu newid i sicrhau cyfrinachedd.