Chwilio yn ol llais

Drwy gydol mis Ionawr rwyf wedi bod yn gwneud gwaith ar gyfer fy Nghwrs Siarad Ysgogiadol. Mae’n gwrs ar-lein, ac rwyf wedi bod yn ei ddilyn ers yn gynnar yn 2019.

Mae’r tasgau y gofynnwyd imi eu cwblhau ar y cwrs wedi bod yn berthnasol iawn i fy rolau siarad cyhoeddus gydag Engage to Change. Mae’r cwrs, yn ogystal â’r profiad ymarferol o siarad cyhoeddus rwyf yn ei gael drwy’r prosiect, yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau ymhellach.

Ar 16 Ionawr mynychais gyfarfod LGBT gyda Joe Powell, Prif Weithredwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, i ehangu fy ngwybodaeth am y rhwystrau y mae pobl gydag anabledd dysgu yn eu wynbeu gyda LGBT fel rhan o fy hyfforddiant a’m datblygiad. Hefyd y rhwystrau y mae pobl LGBT gydag anabledd dysgu yn eu wynebu a’r problemau maen nhw’n eu cael wrth fynd i gyflogaeth.

Ar 21 Ionawr cefais gyfarfod teulu gydag Asiantaeth Cyflogaeth gyda Chefnogaeth Elite ynghylch fy natblygiad gyrfa yn y dyfodol a chynllunio ar gyfer gwaith ar ôl Engage to Change. Roeddwn yn temlo ei fod yn gyfarfod positif iawn. Roedd camau gweithredu yn cael eu sefydlu i’m helpu i barhau i fod mewn gwaith cyflogedig ar ôl i’r prosiect orffen.

Ar 23 Ionawr cefais gyfarfod Skype gyda’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Roedd y cyfarfod yn siarad am y ffilm astudiaeth achos rydw i’n rhan ohono. Rydyn ni wedi cadarnhau y bydd yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y flwyddyn yma.Llun o Gerraint a Joe