Blog Gerraint Mawrth-Mehefin 2019
Mawrth 2019
Ar 26ain Mawrth, rhoddais i a’n Llysgennad Prosiect Jonathan cyflwyniad ynglyn a’r prosiect i bobl ifanc a mynychodd y digwyddiad gwerthuso Engage to Change ym Mangor.
Gwnaethom esbonio ein rolau fel llysgenhadon a’n perthynas waith gyda partneriaid prosiect, Agoriad. Gwnaethom cynorthwyo gweithdy gyda Tracey Drew, Ymgynghorydd Ymgysylltu ag Aelodau o Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, a buom yn siarad am pam y gallai cyflogwyr fod yn amharod i gymryd pobl ymlaen fel gweithwyr.
Ebrill 2019
Ar 2 Ebrill mynychodd Joe Powell a minnau digwyddiad AP Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth. Fe wnaeth partneriaid y prosiect Anabledd Dysgu Cymru, ELITE Supported Employment, Canolfan Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, a’n cydweithwyr Project SEARCH hefyd mynychu’r digwyddiad.
Siaradodd Joe am ei daith bywyd fel dyn gydag Aspergers/Awtistiaeth. Siaradais i am y meini prawf ar gyfer ymuno â’r prosiect Engage to Change fel cyfranogwr prosiect, a beth sy’n rhan o fod yn gyflogwr ar y prosiect.
Ar 3 Ebrill, fe wnes i gyd-gadeirio Cynhadledd ASDInfo Wales gydag Amara, sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe. Tynnais sylw at y prosiect Engage to Change a siaradais â llawer o bobl yn ystod yr egwyliau rhwydweithio.
Mynychodd Vaughan Gething, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y digwyddiad i roi cyflwyniad am lansiad gwerthusiad annibynnol Llywodraeth Cymru o weithredu ac effaith y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol.
Roedd Jules Robertson hefyd yn siaradwr gwadd yn y gynhadledd. Mae gan Jules Asperger’s ac mae’n actor proffesiynol. Efallai eich bod wedi gweld bach o waith Jules. Mae’n chwarae porthor ysbyty sydd â Asperger’s yn Holby City ar y BBC. Mae Jules wedi bod yn rhan o Holby City ers 2016. Digwyddodd Jules a minnau i rannu taith trên ar y ffordd adref o’r gynhadledd, a oedd yn gyfle gwych i gael sgwrs dda a cymryd ‘selfies’ – rydych chi’n gwybod na allaf wrthsefyll cyfle am ‘selfie’!
Mai 2019
Ar 17 Mai mynychais CCB Pobl yn Gyntaf Caerdydd. Mynychodd partner arweiniol Engage to Change, Anabledd Dysgu Cymru, hefyd. Roedd yn wych clywed am amserlen brysur o brosiectau a digwyddiadau sydd ar ddod ar gyfer Pobl yn Gyntaf Caerdydd.
Maent yn gwneud llawer o waith gyda Pride Cymru ac maent yn cynyddu lles a gweithgarwch corfforol drwy’r teithiau cerdded prosiect “Ain’t no Mountain High Enough”. Mae’r “Archifau ar ôl Oriau” hefyd yn darparu cyfleoedd profiad gwaith i bobl ag anableddau dysgu.
Mae cyfranogwyr yn mynd i swyddfa Archifau Morgannwg ar ôl oriau i ennill profiad gwaith ar gyfer swyddi amrywiol yno. Mae rhai aelodau hefyd yn ymwneud â phrosiect Ffrindiau Gigiau. Mae i gyd i wneud â bod yn hyderus i fod yn bwy rydych chi eisiau bod, aros yn iach, a mynd allan gyda ffrindiau!
Mehefin 2019
Roedd yn wych cael adborth gonest o’r digwyddiad prosiect Engage to Change yn Hwlffordd. Diolch i bob un ohonoch a fynychodd a chymryd yr amser i siarad â Joe Powell a minnau.
Rydym wedi gwrando ar yr hyn oedd gennych i’w ddweud, ac rydym wedi ail-broffilio’r ffordd y byddwn yn gwneud digwyddiadau gwybodaeth a gwerthuso yn y dyfodol. Trwy glywed yr hyn yr oedd gennych ei ddweud, rydym wedi sylweddoli pa mor bwysig yw hi i ymgysylltu â phobl yn lleol yn hytrach nag yn genedlaethol. Mae cyfathrebu da mor bwysig wrth helpu pobl i allu gwneud y gorau o’r prosiect hwn.
Rydym yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol ledled Cymru, a hoffem glywed mwy am eich barn am y prosiect. Dewch draw i siarad â mi a Llysgenhadon y Prosiect am eich gobeithion ar gyfer y prosiect, os ydych chi wedi cael profiadau da, neu os nad yw pethau wedi bod mor dda i chi.
Bydd y digwyddiadau rhanbarthol hefyd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am nodau ehangach y prosiect. Nid yn unig mae Engage to Change am leoliadau gwaith, mae’n ymwneud ag adeiladu etifeddiaeth i newid agweddau a pholisi o ran cyflogi pobl ag anableddau dysgu ac / neu awtistiaeth.
Mynychodd Llysgennad y Prosiect Elsa y cyntaf o’n digwyddiadau rhanbarthol yng Ngogledd Cymru ar 17 Mehefin.