Chwilio yn ol llais

Cyfarfodwch rhai o’n hyfforddwyr swydd newydd o ELITE Supported Employment.

Rachel Holley, Hyfforddwr Swydd

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

Fy rôl ar Engage to Change yw i helpu pobl ifanc i ddysgu ei tasgau ac i addasu yn y gweithle. Rwy’n helpu nhw i ddeall y rolau a tasgau amrywiol yn ei gweithle dewisol ac yn gwneud yn siwr ei bod nhw’n cael hwyl ac yn mwynhau ei hunain, tra’n cwblhau’r tasgau sy’n ofynnol i safon y cyflogwyr.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Rwy bob amser wedi eisiau helpu pobl, felly cael mynd allan a helpu pobl yn uniongyrchol yw’r rhan mwyaf gwerth chweil, a gweld hyder rhywun yn ei galluoedd ei hun.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Fy moment mwyaf balch oedd gweld fy nghleient yn gwneud tasgau iddi hi ei hunain heb unrhyw ganllaw, ac yn sylweddoli ei bod hi’n medru cwblhau tasgau.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Ar hyn o bryd rydw i’n adnewyddu fy nhŷ, sy’n cymryd lan y rhan fwyaf o fy amser sbâr. Rwy hefyd yn dysgu i chwarae’r ukulele ac rwy’n mwynhau gwnïo. Rwy hefyd yn priodi yn 2019 felly mae gen i llawer o gynllunio i wneud.

Mark Parry, Hyfforddwr Swydd

Beth yw eich rôl ar Engage to Change?

I gefnogi cleientiaid mewn i gyflogaeth ac i adeiladu hyder yn y gweithle i arwain i gyflogaeth parhaus.

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Rhyngweithio gyda cleientiaid, rwy’n mwynhau cwrdd â’r gwahanol fathau o bobl gan groesawu’r heriau a roddwyd i mi.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Ennill y swydd!

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Fy ddau mwnci bach (plant!). Rwy’n angerddol am glwb pel-droed Lerpwl, rwy’n astudio Cwnsela sy’n Canolbwyntio ar y Person sydd hefyd wir yn bwnc yr wyf yn yn diddordebu ynddo. Rydw i hefyd yn caru coginio a creu prydiau o fwyd ar gyfer fy nheulu.

Tracey Willetts, Hyfforddwr Swydd

Beth ydych chi’n mwynhau’r mwyaf am eich swydd?

Gwneud gwahaniaeth trwy grymuso unigolion i wireddu eu gwerth.

Beth fu eich moment Engage to Change mwyaf falch?

Tystio’r llawenydd a’r cyffro ar wyneb cleient pan mae nhw’n sylweddoli ei bod wedi cyflawni pethau gwych ac wedi goresgyn rhwystrau.

Beth yw rhai o’ch hoff bethau?

Mae datblygu priodwedd a dylunio mewnol bob amser wedi bod yn angerdd a diddordeb i mi, rwy’n mwynhau mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth byw, wedi darganfod yn ddiweddar fy mod yn caru gwyliau mordeithio, a bob amser yn gwerthfawrogi gwario amser o ansawdd yn cymdeithasu gyda’m teulu.