Chwilio yn ol llais

Os ydych chi’n rhoi cymorth i berson ifanc gydag anabledd dysgu, anhawster dysgu ac/neu awtistiaeth, effallai rydych chi wedi gwario llawer o’u bywyd yn cefnogi nhw trwy problemau, neu yn delio gyda’r problem eich hun ar eu rhan.

Ar Engage to Change, rydyn ni’n gweithio gyda pobl ifanc i ddod yn annibynnol yn y gweithle. Credwn gyda’r cymorth cywir, gall y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda ddod yn hollol annibynnol yn eu rôl. Mae hyn yn cynnwys datrys problemau a cael y hyder i’w godi nhw yn y gweithle.

Os oes angen i chi rhoi cymorth i bobl ifanc gyda problem sy’n gysylltiedig â’r gwaith, efallai gall yr awgrymiadau canlynol helpu:

1. Croywch beth yw’r broblem.

Siaradwch i’r person ifanc i geisio cyrraedd gwreiddyn y broblem. Efallai mae’r person ifanc yn teimlo’n orlawn gyda’r sefyllfa, ac yn ffeindio hi’n anodd i ffocysu ar beth yw’r broblem wir. Gallwch chi helpu trwy cydnabod eu teimladau a cadw’r sgwrs yn canolbwyntio ar atebion.

2. Arhoswch yn ddigyffro

Ceisiwch aros yn ddigyffro a cuddio teimladau eich hun am y sefyllfa o flaen y person ifanc. Efallai bod ganddynt problem wir iawn sydd yn gwneud i chi deimlo’n grac, ond gall eich dicter neu eich chwalfa gwaethygu eu teimladau eu hunain am y sefyllfa. Os mae’r person ifanc yn derbyn cymorth o Engage to Change, ac rydych chi’n teimlo’n grac neu’n bryderus am unrhywbeth sydd wedi digwydd iddynt yn y gwaith, cysylltwch â ni fel ein bod ni’n gallu ymchwilio’r sefyllfa yn syth.

3. Gofynwch cwestiynau archwiliol i arwain y person ifanc i ffeindio ateb. Gallwch ofyn cwesitynau fel:

  • “Pwy yn y gwaith allwch chi siarad i am hyn?”
  • “Ydych chi’n gwybod pam mae hyn wedi digwydd?”
  • “Oes yna unrhywbeth gallwn ni wneud nawr i wella’r sefyllfa?”
  • “Ydych chi’n gallu meddwl am unrhywbeth pan rydych chi nesaf yn y gwaith i wneud y sefyllfa yn well?”
  • “Beth ydych chi’n gallu dweud i’ch rheolwr am hyn pan rydych chi nesaf yn gweld nhw?”

Os all y person ifanc datrys y broblem hebddo chi’n rhoi’r atebion iddynt, rydyn nhw’n fwy tebygol o deimlo’n grymus ac yn hyderus i fynd i’r afael â’r broblem yn y gweithle.

4. Byddwch yn bositif am eu gallu nhw i ddelio â’r broblem

Ailgadarnhewch i’r person ifanc eich bod chi’n credu y gallant ymdrin â hyn. Anogwch nhw trwy canmol eu gallu i siarad trwy’r broblem, rhowch sicrwydd iddynt bod ganddynt y sgiliau i ffeindio’r ateb. Fe fydd eich cred ynddynt yn helpu i hybu eu hunan-gred eu hunain.

5. Siaradwch i’r sefydliad sy’n cefnogi’r person ifanc

Os mae’r person ifanc yn cael eu cefnogi gan Engage to Change, fe allwch chi gysylltu â ni i siarad am eich pryderon. Gobeithio bydd y sefyllfa yn barod wedi cael ei sylwi gan yr hyfforddwr swydd, ond os na, gellir eu hysbysu amdano a darparu cymorth ychwanegol yn y gweithle ynglŷn â’r sefyllfa arbennig hon.

6. Tynnwch sylw gartref

Yn aml, mae problemau yn cael ei chwyddo y mwyaf yr ydych chi’n meddwl amdanynt. Unwaith rydych chi wedi siarad am y broblem ac wedi helpu’r person ifanc ffeindio ateb neu ffordd ymlaen, ceisiwch gymryd eu meddwl bant ohono. Yn aml, nid oes fawr dim a gellir ei wneud tan y diwrnod gwaith nesaf, felly anogwch nhw i wneud rhywbeth pleserus bydd yn gadael iddynt feddwl am rhywbeth arall ac yn helpu i godi eu hwyliau.

Cofiwch bod problemau sy’n ymwneud â gwaith yn aml yn rhan o fywyd gwaith. Trwy helpu’r person ifanc i lywio trwy problemau gwaith gyda eich cymorth i ddechrau, dylech chi weld eu hyder yn cynyddu wrth i amser mynd heibio – un diwrnod efallai y byddant yn dod adref o’r gwaith a dweud wrthoch am broblem a wnaethon nhw datrys heb unrhyw cymorth ohonoch o gwbl!