Blog Gerraint
Clywch o Llysgennad Arweiniol Engage to Change Gerraint ynglyn a beth mae wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn y flwyddyn yma!
Yn Ionawr mynychais cynhadledd gwych o’r enw Cynhadledd Cyflogaeth y Dyfodol yn Wrecsam. Roeddwn i ar banel arbenigol yn trafod my mhrofiad o byw gydag awtistiaeth. Siaradais ynglyn a pham ddylai cyflogwyr bod yn cyflogi pobl gydag awtistiaeth ac/neu anableddau dysgu.
Yn y digwyddiad wnes i rhyngweithio gyda Remploy. Roedd partner darpariaeth Engage to Change Gogledd Cymru, Agoriad Cyf, yn arddangos. Sgwrsiais gyda Mark Isherwood AC, sy’n gwneud llawer ar gyfer awtistiaeth yn Lywodraeth Cymru.
Ar 13eg Chwefror mynychais cyfarfod gydag Anabledd Dysgu Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru. Buais i a Llysgennad y prosiect, Michael, yn cyflwyno’r prosiect i Iechyd Cyhoeddus Cymru a wnaethon ni drafod sut y gallent gymryd rhan a cynnig cyfleoedd gwaith.
Ar 20fed Chwefror wnes i, Tracey Drew, ac Elsa (llysgennad) darparu gweithdy yn ystod gwerthusiad Engage to Change De Cymru. Siaradon ni am profiadau personol gyda cyfweliadau swydd. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr i ygrifennu eu sylwadau ar bwrdd adborth, a cawsom adborth gwerthfawr.