Chwilio yn ol llais
Ydych chi’n berson ifanc anabl sydd â diddordeb bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a chynrychioli safbwyntiau pobl ifanc anabl eraill?

Bydd Cymru’n lansio’r senedd ieuenctid gyntaf ym mis Ionawr 2019, ac Anabledd Dysgu Cymru fydd un o’r sefydliadau partner a fydd yn cefnogi pobl ifanc anabl i gael llais.

Rhai o’r ffeithiau allweddol ynghylch Senedd Ieuenctid Cymru:

  • Bydd 60 o bobl ifanc yn ffurfio Senedd Ieuenctid Cymru.
  • Bydd 40 o bobl ifanc yn cael eu hethol o ardaloedd etholaeth.
  • Bydd 20 o bobl ifanc yn cael eu hethol drwy sefydliad partner.
  • Byddant yn aelod o’r senedd ieuenctid am 2 flynedd o fis Ionawr 2019 hyd at fis Rhagfyr 2021.
  • Rhaid i’r bobl ifanc fod rhwng 11 a 17 oed.
  • Rhaid i’r bobl ifanc fod yn byw yng Nghymru neu’n cael eu haddysg yng Nghymru.
  • Bydd Anabledd Dysgu Cymru yn ethol 2 o bobl ifanc i gynrychioli pobl ifanc anabl.

Cymryd rhan yn Senedd Ieuenctid Cymru

Mae nifer o ffyrdd y gall pobl ifanc gymryd rhan:

Cymryd rhan drwy Anabledd Dysgu Cymru

Rydym yn prysur baratoi i ddod o hyd i’r 2 unigolyn ifanc y byddwn yn eu cefnogi i fod yn aelodau o’r Senedd Ieuenctid. Dyma ein cynllun ni ar gyfer gwneud hynny:

  • Yn ystod mis Medi, rydym yn cyfarfod â grwpiau o bobl ifanc anabl i ganfod pa sgiliau a rhinweddau y maen nhw’n credu y dylai’r unigolyn ifanc fydd yn eu cynrychioli eu cael. Erbyn diwedd y cyfnod hwn, byddwn wedi creu swydd ddisgrifiad.
  • Ar Hydref 1af byddwn yn lansio ein chwiliad drwy anfon y swydd ddisgrifiad allan a gofyn i bobl ifanc sydd â diddordeb  anfon cais fideo, clywedol neu ysgrifenedig yn rhoi gwybod i ni pam eu bod yn ateb gofynion y disgrifiad a pham y byddent yn ddewis da.
  • Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau hyn fydd 26ain Hydref.
  • Yna bydd panel o bobl ifanc yn dethol 4 cais i’w cyhoeddi ar gyfer y bleidlais.
  • Cynhelir y cyfnod pleidleisio o 5ed Tachwedd hyd at 16eg Tachwedd.
  • Byddwn yn rhoi gwybod i Senedd Ieuenctid Cymru pwy sydd wedi bod yn llwyddiannus a byddant yn cyhoeddi’r enwau yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 10fed Rhagfyr.

Noder – cymerir pleidleisiau gan aelodau o Anabledd Dysgu Cymru. Bydd un bleidlais i bob sefydliad neu aelod.

Os nad ydych yn aelod a’ch bod yn dymuno cymryd rhan, mae ein haelodaeth am ddim felly cysylltwch â ni. Cewch wybod am y manteision o fod yn aelod o Anabledd Dysgu Cymru ar ein gwefan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau a’ch bod eisiau gwybod mwy, cysylltwch â zoe.richards@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.