Chwilio yn ol llais

“Os ydw i’n ennill y wobr byddaf yn ei ennill ar gyfer yr holl bobl ifanc ar y prosiect,” meddai Gerraint Jones-Griffiths, Llysgennad Arweiniol Engage to Change. “Y gwir arwyr yw’r bobl sydd ar y prosiect ac yn mynd i’r gwaith pob diwrnod.”

Dydd Gwener yma, fe fydd Gerraint yn mynd yn erbyn ei gyd-enwebeion yng Ngwobrau Cenedlaethol Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth ar gyfer y Wobr ‘Torri Lawr Rhwystrau.’ Mae’r wobr yn dathlu unigolyn neu sefydliad sydd wedi gweithio i torri lawr rhwystrau i’w hunain ac i eraill, trwy galluogi pobl i gael gwybodaeth clir a trwy mynegi eu barn a’u profiadau eu hunain.

Fel Llysgennad ar gyfer y prosiect gyda Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, mae Gerraint wedi dod yn gyfarwydd gyda cyfleu ei farn a’i brofiad i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd, o  cyfoedion i gwleidyddion, o gyfarfodydd bac h i dorfaoedd mawr yng nghynhadleddau. Mae ei taith o’i diagnosis awtistiaeth lan at heddiw yn barod wedi ysbrydoli llawer o bobl. Efallai y mae’n ei gwneud edrych yn hawdd nawr, ond nid yw hi bob amser wedi bod yn hawdd.

Pan gafodd ei ddiagnosio ag awtistiaeth dywed Gerraint “roedd yna gwmwl tywyll iawn dros fy mywyd. Doeddwn i ddim yn meddwl byddaf yn gallu llwyddo at hanner y pethau rwyf wedi gwneud nawr.” Er enghraifft, nid oedd yn meddwl y byddai’n gallu teithio’n annibynnol. Mae wedi gallu goresgyn hyn gyda chymorth o Engage to Change, ac fel rhan o’i rôl fel llysgennad gellir gweld Gerraint yn hyrwyddo’r prosiect unrhywle o’i cartref yn Tredegar, i Gaerdydd, i Bangor, Wrecsam, neu Abertawe.

Na fyddech chi’n dyfalu o’i ymagwedd at siarad cyhoeddus ei fod wedi bod trwy therapy lleferydd am bedair blynedd. “Rwy’n caru siarad cyhoeddus,” meddai. “Mae’n helpu pan fod ganddoch chi geg mawr! Nawr gallaf siarad â cynulleidfa o gannoedd ar y tro gyda dim problem.” Mae’n ystyried ei symudiad nesaf ar ô lei llysgennadwriaeth – o bosib fel mentrwr siarad cyhoeddus.

Mae’n enwedig yn falch o beth gall ei stori ei olygu i eraill. Mae’n disgirifo’r prosiect Engage to Change fel “pwerus” ac yn gobeithio cael cyfleu i eraill nad yw cael awtistiaeth neu anableddau dysgu yn meddwl eich bod chi’n methu sicrhau cyflogaeth. Trwy ei profiadau ei hun, mae’n gwybod bod gyda’r cymorth cywir mewn lle, mae pobl yn fwy na gallu rhagori ar y disgwyliadau, yn aml yn isel, a roddir arnynt. “Gyda’r profiadau yr wyf wedi’i cael, a gyda’r brwydrau rwyf wedi gorfod delio â nhw, gobeithio gallaf annog pobl ifanc y gallant goresgyn rhwystrau gyda’r gefnogaeth gywir. Chwaraewch at eich cryfderau.”

Darganfu Gerraint ei fod wedi cael ei enwebu gan ei gyn-gyflogwr, partner arweiniol Engage to Change Anabledd Dysgu Cymru, sawl mis yn ôl. Fe’i gwahoddwyd wedyn i gyfweliad ffurfiol o flaen y panel beirniadu, ac fe fydd yn darganfod ennillydd y wobr yn y seremoni ar ddydd Gwener 28ain Medi. “Roeddwn yn anrhydeddol iawn,” meddai ynglŷn â clywed am ei enwebiad. “Yna pan glywais fy mod ar y rhestr fer, roeddwn i’n methu ei gredu. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn.”

Mae Gerraint yn awyddus i wneud yn siwr bod pobl ifanc arall ar Engage to Change yn cael eu gydnabod am eu gwaith caled i oresgyn eu rhwystrau eu hun. Ymysg y bobl yma yw ei gyd-lysgenhadon sydd wedi newydd eu benodi. “Maent yn wirioneddol frwdfrydig,” meddai Gerraint. “Maen nhw’n hollol anhygoel ac fe fydden nhw’n wych  gyda’r cyhoedd. Dwi’n methu aros i gael mwy o ddigwyddiadau gyda nhw.”

Yn edrych tuag at y dyfodol, mae Gerraint yn gobeithio y bydd Engage to Change yn gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pobl fel ef trwy dylanwadu ar bolisi. Mae’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth sy’n defnyddio Engage to Change fel model i gefnogi pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn i gyflogaeth. Nid yw wedi gorffen torri lawr rhwystrau eto.