Chwilio yn ol llais

Mae pob aelod o staff hyfforddi swydd yn ein partneriaid cyflogaeth â chymorth ELITE ac Agoriad yn mynd trwy rhaglen hyfforddiant trylwyr cyn mynd i mewn i’r gweithle i gefnogi person ifanc. Un agwedd hanfodol o’r hyfforddiant yma yw Hyfforddiant mewn Cyfarwyddyd Systematig. Mae’r hyfforddiant yma yn ffocysu ar y strategaethau am gefnogi person ifanc trwy dysgu tasgau newydd a monitro eu cynnydd yn effeithiol ac yn effeithlon.

Dadansoddiad tasg

Mae popeth yn dechrau wrth lunio dadansoddiad tasg. Rheswm allweddol am lunio dadansoddiad tasg yw i sicrhau bod yr hyfforddwr swydd yn barod i gyfarwyddo’r person ifanc yn systematig ymhob tasg. Trwy cael syniad clir o:

a) Pa sgiliau sydd angen ei ddysgu

b) Y dilyniant y byddant yn cael eu dysgu

d) Yr ysgogiad sy’n rheoli pob ymateb

Fe fydd yr hyfforddwr mewn sefyllfa llawer gwell i gynorthwyo unigolion yn effeithiol ac yn systematig wrth iddynt ddysgu’r tasg.

Mae yna dwy prif rheswm pam mae rhaid i’r hyfforddwr wybod y tasgau y mae swydd yn cynnwys. Yn gyntaf, i alluogi’r hyfforddwr i rhoi gwybodaeth yn effeithlon i’r unigolyn yn ystod hyfforddiant, ar lefel sydd yn siwtio anghenion yr unigolyn. Yn ail, i alluogi’r hyfforddwr i gasglu a gwneud cofnod o ddata ar cynnydd yr unigolyn tuag at cwblhau tasgau’r swydd yn llwyddiannus.

Yn ddelfrydol y person sy’n mynd i wneud yr hyfforddiant fydd y person i lunio’r dadansoddiad tasg, ac fe ddylen nhw ymarfer perfformio’r tasg sawl gwaith yn yr union yr un ffordd bydd y dysgwr y disgwylir i’r hyfforddai ei berfformio a’i ddysgu.

Fe fydd yr hyfforddwr yn torri lawr tasg trwy defnyddio camau oddeutu maint cyfartal sy’n arwain at newidiadau amlwg i arsylwi. Y nod yw i osgoi cyfarwyddiadau sy’n rhy gyffredinol neu’n rhy manwl, tra’n cymryd i ystyriaeth allu’r unigolyn i amsugno gwybodaeth.

Cymhorthion cyfarwyddyd

  • Cyfarwyddiadau ysgrifenedig
  • Diagram
  • Golygfa wedi’i ffrwydro
  • Ffotograffau
  • Fideo

Ysgogiad disgrifiadol / Ymateb cydran

Mae hyfforddiant yn cynnwys nid dim ond dysgu gweithiwr ‘sut’ i berfformio rhai ymatebion. Mae hefyd yn cynnwys dysgu ‘pryd’ i gyflawni’r ymatebion hyn. Dylai dadansoddiad tasg nodi’r ymatebion i’w ddysgu yn ogystal â’r ysgogiadau fydd yn rheoli pob ymateb pan mae hyfforddiant yn cael ei cwblhau. Pan mae’r hyfforddwr yn pennu’r ysgogiadau disgrifiadol am bob ymateb fe fydden nhw hefyd yn yn pennu maen prawf y cam ar gyfer yr ymateb blaenorol.

Mesur perfformiad

Unwaith mae’r hyfforddwr wedi nodi camau’r tasg, yn cynnwys unrhyw canghennu anlinol, maent yn cael ei ychwanegu i daflen casglu data fe fydd yn cael ei defnyddio i gofnodi perfformiad y dysgwr ar bob cam ac fel canllaw i’r dilyniant y dylai’r camau gael eu hyfforddi. Fe fydd yr hyfforddwr yn gwahaniaethu rhwng perfformiad cywir ac anghywir, ac rhwng perfformiad sy’n cgwir yn topograffig a perfformiad sy’n gywir yn swyddogol.

Sut mae’r hyfforddwr yn gwybod pan mae cam wedi cael ei cwblhau? Am rhai camau mae hyn yn eithaf clir ond am eraill gall hyn fod yn agored i’w dehongli. Yn gyffredinol mae yna dau fath o gam mewn unrhyw dadansoddiad tasg. Rhain yw:

  • Camau arwahanol
  • Camau dyfarniad

Hyfforddi’r swydd

Nod nesaf yr hyfforddwr yw i ystyried sut allen nhw pasio’r wybodaeth sydd rhaid i’w ddysgu i’r dysgwr. Mae cynnwys y math, swm ac amseriad awgrymiadau o’r hyfforddwr yn ystod y broses hyfforddiant a sut i ddelio gyda anhawsterau.

Hyfforddiant strwythuredig

Athroniaeth sylfaenol Hyfforddiant Strwythuredig yw i alluogi’r dysgwr i ddysgu tasgau trwy arbrofi a system o adborth mewnol. Mae’r hyfforddwr dim ond yn darparu’r cymorth lleiaf sydd angen gan y dysgwr, ac yn edrych i tynnu’n ôl o’r cychwyn er mwyn galluogi dysgwyr y cyfle mwyaf i arddangos cymhwysedd. Gall y cymorth yma gymryd ffurf arddangosiadau, awgrymiadau neu cymorth corfforol, awgrymiadau neu cymorth ar lafar, neu awgrymiadau neu cymorth ystumiol. Fe fydd yr hyfforddwr yn penderfynu pa awgrym yw’r mwyaf priodol am bob sefyllfa.

Diflannu / Tynnu’n ôl

Nod hyfforddiant yw i symud o awgrymiadau pwerus i ddim awgrymiadau o gwbl yn ystod y broses, a elwir yn diflannu neu tynnu’n ôl. Gall diflannu gael ei ddiffinio fel strategaeth cyfarwyddedig ble gall y grym cywiro neu atgyfnerthu a darperir gan y hyfforddwr wedi ei lleihau wrth i berfformaid y dysgwr ddod yn fwy cywir. Mae diflannu yn cynnwys lleihau grym awgrymiadau yn bwrpasol wrth i ddysgwyr arddangos eu gallu cynyddol i ddefnyddio’r gwybodaeth sy’n cael ei gyflwyno iddynt. Dim ond pan mae’r dysgwr yn perfformio’r sgil i maen prawf y dadansoddiad tasg, heb unrhyw dibyniaeth neu awgrymiadau o’r hyfforddwr, gallwn ddweud bod yr hyfforddwr wedi diflannu neu tynnu’n ôl yn llwyddiannus.