Chwilio yn ol llais

gan Christine Oakes o Aberystwyth, mam cyfranogwr Engage to Change Tom Oakes.

Mae’r rhaglen yma wedi cynnig i Tom, 23 oed, y cyswllt hanfodol rhwng lleoliad sefydliadol â chymorth o ysgol/coleg i’r byd gwaith.

Mae Tom ar y sbectrwm awtistig. Mae’r cam o addysg i gyflogaeth yn her ar gyfer pob oedolyn ifanc ond ar gyfer y rhai gydag anableddau dysgu, mae’n gallu fod yn gymhleth a trafferthus. Mae’r angen am sefydliad profesiynol gyda’r staff a’r sgil i rymuso’r bobl ifanc trwy’r cam trawsnewidiol hwn mor angenrheidiol. Mae’n rhoi hwb i’w hunan-barch ac ymdeimlad o werth ac yn helpu lles meddyliol a chorfforol.

Mae hyn yn amlwg yn helpu’r holl deulu sy’n gysylltiedig â’r unigolyn, oherwydd i galluogi’ch plentyn i fod mor iachus, hapus ac annibynnol a phosib yw eich galwedigaeth fel rhiant yn y pen draw.

Mae taith Tom wedi cynnwys amrywiad helaeth o profiad gwaith ac fe wnaeth yn dda iawn i gyflawni Lefel 1 Arlwyo o Goleg Ceredigion ym Mehefin 2018. Fodd bynnag, roedd edrych am waith â thâl llawer yn fwy heriol gan fod anhawsterau dysgu Tom ddim yn cyflwyno’n glir. Mae’n ddyslecsig, mae ganddo sgiliau prosesu araf, ac mae’n gallu teimlo dan bwysau os nad yw’n glir am yr hyn y mae’n ei wneud. Serch hynny, o fewn amgylchiad sy’n ymwybodol ac yn empathedig o hyn, gall Tom ffynnu. Dyma ble mae Engage to Change a mentor gwaith Bethan Hughes wedi chwarae rôl hanfodol.

Yn dilyn o gymorth ardderchog y Canolfan Gwaith, gyda Tom yn ymgeisio am brofiad gwaith yn Ysbyty Bronglais, roedd Engage to Change yna yn gallu hwyluso 6 mis arall o waith â thâl ar gyfer Tom yng nghegin yr ysbyty wedi’i cefnogi gan ei hyfforddwr swydd Bethan yn wythnosol.

Mae Tom wedi gweithio’n galed, tyfu mewn hyder, ac addasu’n dda i arferion. Mae wedi teimlo cymaint o rym yn ennill ei arian ei hun ac teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi’n fawr fel person sydd gan ffocws ac ymrwymiad ym myd yr oedolion!

Mae’r cyfle yma wedi lansio Tom i le diogel a gwerthfawr ym myd gwaith, ond yn fwy pwysig na hynny, mae ei hunanhyder a’i ymdeimlad o werth wedi blodeuo.

Diolch o galon Agoriad, Bethan Hughes ac Engage to Change. Mae Tom a’r teulu’n hynod ddiolchgar a gwerthfawrogol.