Chwilio yn ol llais

Sut mae cyflogaeth gyda chymorth yn gweithio? Beth yw hyfforddwr swydd? A pham rydyn ni’n credu yn y model yma? Darllenwch mwy am egwyddorion cyflogaeth gyda chymorth yma.

Mae gan ELITE ac Agoriad flynyddoedd o brofiad yn gweithredu’r model cyflogaeth gyda chymorth yn llwyddiannus i helpu pobl anabl a phobl dan anfantais i ennill a chadw gwaith. Rydyn ni’n credu medru unrhywun sydd eisiau, gweithio os mae’r cymorth cywir ar gael, beth bynnag ei anabledd. Dyma lle mae’r hyfforddwr swydd yn dod mewn. Mae ein hyfforddwyr swydd yn gweithredu hyfforddiant arbenigol i alluogi unigolion i gyrraedd ei potensial llawn, ei hyder, a’i integreiddio yn y gweithle.

Mae hyfforddwyr swydd yn gweithio gyda’r bobl ifanc ar y prosiect ar sail un-i-un, yn cymryd ymagwedd systematig i ddysgu iddynt tasgau newydd ar cyflymder sydd yn siwtio’r unigolyn. Mae tynnu’n ol o’r gweithle wrth i’r person ifanc ddod yn fwy hyderus yn digwydd yn raddol, ac wrth ymgynghori’n llawn gyda’r person ifanc, y cyflogwr, yr hyfforddwr swydd a’r rhiant/gofalwr.

  • Rydyn ni’n galluogi cyflogwyr i weld y person yn lle’r anabledd trwy dangos agwedd cadarnhaol.
  • Mae Cyfarwyddyd Systematig yn unigryw i cyflogaeth gyda chymorth. Mae hi’n synhwyrol iawn ond yn galluogi pawb i werthuso datblygiad parhaus y person i annibyniaeth, gan gynnwys yr unigolyn a’i cyflogwr.
  • Mae ein system proffilio galwedigaethol yn ffurf cyfannol o asesiad sydd wedi’i canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Nid dim ond ydy hi’n edrych ar dewis gwaith a gallu y person, ond hefyd yr effaith o ffactorau allanol fel amglychedd, arddull dysgu, ac agweddau cymdeithasol ar gallu y person i gyrraedd ei potensial llawn.